Pryder i brifysgolion wrth i lai o fyfyrwyr tramor ddod i astudio yn y DU
Mae nifer y myfyrwyr tramor sydd wedi derbyn lle mewn prifysgolion yn y DU wedi gostwng, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae ychydig dan 70,000 wedi sicrhau lle ar gwrs israddedig eleni - gostyngiad o 2.3% ar y flwyddyn flaenorol, yn ôl manylion diweddaraf Ucas, y corff sy'n arolygu derbyniadau i brifysgolion.
Daw hyn ar adeg pan mae nifer o brifysgolion yng Nghymru a Lloegr wedi rhybuddio am broblemau ariannol oherwydd y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr tramor - sydd yn aml yn gorfod talu ffioedd sylweddol uwch na myfyrwyr o'r DU.
Ers mis Ionawr, mae'r mwyafrif o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cael eu hatal rhag dod ag aelodau o'u teuluoedd gyda nhw, o dan fesurau a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Rishi Sunak.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod gostyngiad o 16% wedi bod mewn ceisiadau fisa gan fyfyrwyr rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran mudiad Universities UK, sy'n cynrychioli prifysgolion, eu bod nhw'n bryderus am y sefyllfa.
"Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod a budd enfawr i'n prifysgolion ac mae'r sybsidi o ddysgu ag ymchwil ddaw o'u ffioedd yn cynnal addysg safon uchel i bob myfyriwr," medden nhw.