Degau o filoedd yn dal heb drydan wedi Storm Darragh
Mae degau ar filoedd o bobl yn dal heb drydan yng Nghymru wedi i storm Darragh daro dros y penwythnos.
Mae Sir Gâr a Cheredigion ymhlith y siroedd sydd wedi eu taro'n arbennig o wael wedi i wyntoedd cryfion hyd at 90 milltir yr awr hyrddio ddydd Sadwrn.
Mae rhai ysgolion ar gau am ail ddiwrnod yn ogystal, wrth i'r gwaith barhau i geisio adfer cyflenwadau trydan ledled y wlad.
Yn ôl gwefan National Grid, sydd yn gyfrifol am gyflenwi trydan i dde a gorllewin Cymru, roedd yna 13,805 o dai dal heb drydan ar fore Mawrth.
Mae rhai trigolion wedi derbyn diweddariad sydd amcangyfrif y byddent yn disgwyl tan ddydd Iau i'r trydan gael ei ail-gysylltu yn eu cartrefi.
O'i gymharu, roedd 6,5540 o dai heb drydan yn ne orllewin Lloegr, gyda 1,773 yng ngorllewin canolbarth Lloegr a 176 yn nwyrain canolbarth Lloegr.
Mae SP Energy Networks, sydd yn gyfrifol am drydan i ogledd Cymru a rhannau o'r canolbarth, yn adrodd bod yna nifer o ardaloedd sydd dal yn disgwyl am drydan i gael ei ail-gysylltu.
Mae pob sir yn y gogledd wedi eu heffeithio, gydag amcangyfrif y bydd nifer helaeth yn disgwyl tan hwyrach ymlaen ddydd Mawrth i'r trydan gael ei adfer.
'Gwaith yn parhau'
Yn ôl Cyngor Sir Gâr mae effaith y storm yn dal yn amlwg mewn cymunedau ar draws y sir gyda nifer fawr o breswylwyr yn parhau i fod heb drydan a chyfleusterau eraill.
Maen nhw'n dweud fod staff, gyda chefnogaeth contractwyr coed, wedi clirio tua 300 o goed o'r rhwydwaith ffyrdd ac wedi ailagor bron pob ffordd A a B yn y sir.
Mae'r gwaith yn parhau i glirio ffyrdd llai, ac maen nhw'n rhagweld y gallai'r gwaith clirio gymryd sawl diwrnod arall
Roedd canolfannau hamdden y sir yn Nyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanymddyfri, Llanelli, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr ar agor tan 10:30pm nos Lun, er mwyn sicrhau fod gan bobl sydd heb drydan yn eu cartrefi le i gael bwyd a diod twym a chyfle i wefru unrhyw gyfarpar.
Mae rhai wedi bod heb drydan ers tridiau bellach.
Mae nifer o ffyrdd yn parhau i fod ar gau dros nos yng Ngheredigion, gyda'r cyngor yn annog y cyhoedd i yrru'n ofalus.
Bydd canolfannau cynnes yn parhau i gael eu darparu gan y cyngor, ac fe fydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth yn ôl y cyngor.
Cyhoeddodd Traffig Cymru ddydd Llun fod Porthladd Caergybi ar gau oherwydd 'difrod sylweddol' sydd wedi'i achosi gan Storm Darragh.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1866178740587245706
Daw'r difrod a'r anhrefn ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd coch "perygl i fywyd" ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Gwener.
Roedd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 03:00 a 11:00 dydd Sadwrn, gan achosi hyrddiadau gwynt o hyd at 92mya yng Nghapel Curig yng Nghonwy ac Aberdaron yng Ngwynedd.
Pa ysgolion sydd ar gau?
Dyma'r ysgolion rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw sydd ar gau fore dydd Mawrth.
Gwynedd
Ysgol Botwnnog
Y diweddaraf yma
Sir Benfro
Ysgol Portfield (yn rhannol)
Y diweddaraf yma
Sir Gâr
Ysgol Penygroes
Ysgol Talyllychau
Y diweddaraf yma
Sir y Fflint
Ysgol Gronant
Pen-y-bont ar Ogwr
Porthcawl Comprehensive (yn rhannol)
Y diweddaraf yma
Powys
Ysgol Maes-y-Dderwen
Ysgol Llanelwedd
Y diweddaraf yma
Prif Lun: SP Energy Networks