Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ddydd Mawrth gan amlinellu sut y byddant yn gwario biliynau o bunnoedd ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, ysgolion a chynghorau.
Mae penderfyniadau'r Canghellor Rachel Reeves ar drethi a gwariant yn ei chyllideb fis Hydref yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru fwy o arian - sef tua biliwn o bunnoedd.
Dangosodd gwaith ymchwil diweddar fod cynghorau Cymru yn wynebu diffyg ariannol o dros £500 miliwn o bunnoedd mewn dros flwyddyn.
Gyda thua biliwn o bunnoedd ychwanegol yn dod i Gymru yn y Gyllideb, fe fydd cynghorau lleol yn gobeithio cael cyfran sylweddol ohono.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Os nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arian yn y system, bydd rhaid bo' ni’n cynyddu treth y cyngor o ryw 26% ar gyfartaledd. Dyna realiti'r sefyllfa.
"Yr opsiwn arall yw ein bod ni'n lleihau staff unwaith eto i lanw'r gap yna yn llawn, y 560 miliwn yna. Byddai rhai bod ni'n cael gwared ar dros 14,000 o staff felly mae'n ddifrifol tu hwnt."
Mae eraill yn galw ar y Gyllideb i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG yng Nghymru.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Offthalmolegol Gwyn Williams: "Beth fi ddim mo'yn gweld yw yr arian hyn wedi gwario, ar i gael y rhestrau aros 'ma lawr yw talu'r sector breifat, talu nhw arian rhyfeddol i gael neud y cataracts i ni achos dyw e ddim yn datrys y broblem yn yr hir-dymor.
"Os unrhywbeth, bydd doctoriaid, nyrsys a staff wedyn hyd yn oed yn fwy tempted i gael gadael yr NHS i gael gweithio yn y sector breifat achos ma' fwy o waith yn cael ei wneud 'na."
Gyda galwadau ar i'r Llywodraeth roi rhagor o gyllid i amrywiol feysydd, fe ddaw’n gliriach brynhawn Mawrth sut y bydd yr arian yn cael ei rannu a'i ddosbarthu.