Newyddion S4C

Gwynedd: Galwad i ddod â chyfnewid tai cymdeithasol rhwng siroedd i ben

05/12/2024
Llanelltyd / Delyth Lloyd Griffiths

Ni ddylai pobl sydd yn byw mewn cartrefi cymdeithasol allu cyfnewid tai, oni bai bod hynny’n digwydd o fewn yr un sir.

Dyma alwad un cynghorydd o Wynedd, sydd yn dweud fod yna dŷ mewn pentref yn ei ward wedi ei gyfnewid “nifer o weithiau”.

Mae'r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn cynrychioli ward Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltyd ar Gyngor Gwynedd.

Mae cyfnewid y tŷ penodol wedi digwydd mewn cyfnod pan fo 12 o bobl leol, gan gynnwys teuluoedd, yn aros am dŷ cymdeithasol yn y pentref dan sylw, meddai'r cynghorydd.

Dywedodd nad yw deiliaid y cartref yn dod o Gymru nac yn aros am fwy na 12 mis. 

Mewn cynnig swyddogol fydd yn cael ei drafod gan gyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd ddydd Iau, dywed y Cynghorydd Griffiths y dylai'r awdurdod "bwyso ar" Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn atal pobl sydd yn dymuno cyfnewid tŷ, oni bai ei fod o fewn yr un sir.

“Mae polisi gosod Cyngor Gwynedd yn cael ei danseilio bob tro mae tŷ yn cael ei gyfnewid tra bod pobl leol yn parhau ar y rhestr aros am gyfnodau hir heb lwyddo i sicrhau cartref.

“Cred y cyngor hwn y dylai arfer Llywodraeth Cymru o gyfnewid tai cymdeithasol ddod i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol.

“Erfyniaf heddiw am gefnogaeth Cyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn digoni’r angen am dai lleol.”

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn o’r cyngor brynhawn dydd Iau.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.