
Penwythnos prysur i'r gwasanaethau brys ar draws Cymru
Ar benwythnos cynhesa’r flwyddyn yng Nghymru hyd yma, roedd hi’n ddeuddydd hynod o brysur i wasanaethau brys ledled y wlad.
Fe welodd ardaloedd yn Sir Fynwy dymheredd mor uchel 30.0°C ddydd Sul.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis yn Eryri gymorth gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn ogystal â thîm achub mynydd RAF Fali.
Bu’r tîm yn achub dyn 65 oed oedd wedi treulio 15 awr yn cerdded i fyny’r Wyddfa am hanner nos, nos Sadwrn, ynghyd ag ymateb i bedair galwad arall yn ystod y dydd.
Gyda gwyliau’r haf wedi dechrau a’r tywydd braf yn gwahodd pawb i’r traeth, daeth rhybudd gan dîm Gwylwyr y Glannau yn y Rhyl.
Dywedodd Andrea Keenan o’r tîm: “Mae’r amodau tywydd gwych wedi cynyddu’r nifer o ymwelwyr ar y traeth. Gyda hynny rydyn ni wedi gweld pobl sydd ddim yn ymwybodol o amodau’r llanw, ac yn anffodus sydd wedi cael eu torri ffwrdd o’r lan ar fanciau tywod.”
Maen nhw’n annog ymwelwyr i wirio amseroedd y llanw er mwyn lleihau unrhyw risg.

Ar Ynys y Barri, cafodd achubwyr eu galw ar ôl i berson gael eu cario allan i’r môr ar ddingi.
“Plîs peidiwch â defnyddio dingis ar y môr, maen nhw’n gallu bod yn hynod beryglus oherwydd y llanw,” meddai llefarydd ar eu rhan.
Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis