Newyddion S4C

Corrach ar y Silff: Ydi'r traddodiad Nadolig yn rhoi gormod o bwysau ar rieni?

01/12/2024

Corrach ar y Silff: Ydi'r traddodiad Nadolig yn rhoi gormod o bwysau ar rieni?

Os ydych chi’n rhiant, mae’n debygol eich bod yn gyfarwydd â chorrach bach mewn gwisg goch sy’n chwarae triciau ym mis Rhagfyr.

Daw’r 'Corrach ar y Silff' o lyfr a gafodd ei gyhoeddi yn 2005 o’r enw The Elf on the Shelf: A Christmas Tradition, sy’n adrodd sut mae Siôn Corn yn anfon corrach o Begwn y Gogledd i gadw llygad ar sut mae plant yn ymddwyn cyn y Nadolig.

Erbyn heddiw, mae’r cymeriad ffuglennol wedi neidio o’r tudalennau i’r byd go iawn gyda gêm boblogaidd.

Bob dydd ym mis Rhagfyr hyd nes y Nadolig, unwaith mae'r plant wedi mynd i gysgu, mae rhieni’n rhoi’r tegan Corrach ar y Silff mewn lleoliadau gwahanol yn eu cartref. Y syniad yw ei fod yn ymddangos yn rhywle newydd pan mae’r plant yn deffro bob bore.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae cwmni The Lumistella Co sy’n gwerthu’r tegan swyddogol wedi gwerthu dros 28.3 miliwn ohonynt.

Ac nid yw’r traddodiad yn dangos unrhyw arwydd o arafu, gyda nifer o rieni yn rhannu eu harddangosfeydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar Instagram mae’r hashnod #elfontheshelf wedi cael ei ddefnyddio 5.1 miliwn o weithiau ac mae lluniau yn dangos y corrach yn gwneud pob math o ddrygau, gan gynnwys abseilio o’r nenfwd a gorchuddio'r llawr gyda phapur toiled.

Image
Corrach
Mae'r Corrach ar y Silff yn draddodiad Nadolig dadleuol

Un sy’n cymryd rhan yn y gêm yw Sharlaine Quick, athrawes ddrama o Grymych yn Sir Benfro. 

Dywedodd Sharlaine bod ei rhieni wedi gwneud “popeth chi’n gallu neud” dros y Nadolig yn ystod ei phlentyndod a’i bod eisiau “cadw’r hwyl yn fyw mor hir â phosibl” ar gyfer ei meibion.

A hithau wedi cael trafferth cael plant, roedd y dymuniad i wneud hynny’n gryfach nag erioed.

“Ma’ bois fi’n IVF, fi wedi aros amser hir amdanyn nhw. Dyma’r pethe o’n i’n edrych arno ar Instagram ac yn meddwl, gobeithio ga i gyfle i neud hynna rhyw ddydd,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“So nawr bod nhw gyda fi, fi’n neud e a fi’n joio fe. Ma’ fe’n lot o waith, ond ma’ gweld wynebe’r bois yn y bore jyst yn werth e i fi.”

Image
Sharlaine gyda'i meibion
Mae Sharlaine yn mwynhau creu arddangosfeydd gwahanol gyda'r Corrach ar y Silff

Er ei bod yn mwynhau chwarae’r gêm, mae Sharlaine yn cydnabod bod rhai rhieni yn mynd “dros ben llestri”.

“Fi’n dilyn lot o bobol sy’n neud petha’ eithafol a petha’ fydda i byth yn gallu neud,” meddai. 

“Ond fi’n licio gweld y syniadau. Fi’n trio meddwl, sut alla i neud hynna yn ffor fy hunan?”

Ychwanegodd Sharlaine nad yw hi’n cymharu ei hun i rieni eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Fi ddim yn un erioed sydd wedi rhoi pwysau ar fy hun i fod fel teuluoedd eraill,” meddai.

“Fi’n gwbo bo’ plant fi yn cael eu caru, fi’n gwbo fi’n gallu neud absolwtli popeth fi’n gallu i’r plant sy’ ‘da fi a ma’ hwnna’n ddigon.

“Mae unrhyw beth arall yn fonws wedyn.”

'Dim rhaid neud popeth'

Un sydd wedi penderfynu peidio chwarae’r gêm yw Sara Hampson-Jones o Gaerdydd, sy’n rhedeg y cwmni anrhegion Shnwcs.

Er bod y fam i ddau o fechgyn yn hoff o syniad y gêm, dywedodd nad oedd ganddi'r amser i ymroi iddi yn sgil prysurdeb y Nadolig.

“Ma’ mis Rhagfyr yn gallu bod yn stressful i lot o rieni,” meddai.

“Ma’ lot o bethe ‘mlaen gyda’r ysgol, boed e’n gyngherdde neu gwisgoedd angen cael eu gwneud. Ma’ gwaith yn cyflymu a phopeth yn wrapio lan am y flwyddyn.

“Felly mae neud y trends fel Elf on the Shelf a’r bocsys Noswyl Nadolig yn stress ychwanegol sydd ddim eu hangen i mi.”

Image
Sara Hampson-Jones a'i meibion
Mae Sara yn teimlo bod 'na bwysau ar rieni i wneud gormod dros y Nadolig

Dywedodd Sara ei bod yn teimlo’n euog ar adegau am beidio chwarae’r gêm.

“Mae’r plant wedi dod gartre yn y gorffennol yn gofyn, 'yda ni’n cael yr Elf on the Shelf yn tŷ ni?'” meddai.

“Fel bob rhiant, ti’n cael pangs o euogrwydd - pam ‘da ni’m yn neud e? Ond ar y llaw arall, mae’n beth iachus i esbonio i blant allwn ni ddim neud bob peth.”

Yn ôl Sara, mae’n “bwysig” i famau “siarad mas bod dim rhaid neud popeth”.

“Os yw Elf on the Shelf yn rhywbeth chi wir yn meddwl fydd yn rhoi’r lefel hapusrwydd 'na i’r fam, i’r tad ac i’r plant, yna grêt - dw i’n edmygu chi, ac ella bach yn genfigennus bo’ chi’n gneud ‘na,” meddai.

“Ond os y’ch chi’n math o deulu sy’n joio mynd am wâcs dros y Nadolig, ffantastig!”

Ychwanegodd: “Jyst achos bod e ar Instagram, ‘di hwnna ddim yn golygu bod rhaid i chi neud e achos mae digon o bwysau arno ni rieni dros y Rhagfyr eniwe.”

Mae Sharlaine yn cytuno gyda hynny.

“Jyst gwnewch be sy’n teimlo’n iawn i chi. Does dim ots, ond bod y plant yn joio,” meddai.  

“Does dim rhaid i chi neud ddim byd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.