Newyddion S4C

Heddwas heb droseddu wrth daro llo â char heddlu yn ôl Heddlu Surrey

Buwch yn y lon

Ni wnaeth yr heddwas a darodd fuwch â char heddlu gyflawni trosedd, ac fe fydd yn dychwelyd i’w waith, yn ôl Heddlu Surrey.

Roedd y llu wedi eu beirniadu yn hallt ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi ar-lein o lo 10 mis oed yn cael ei daro gan y car heddlu.

Aeth y fuwch ar ffo drwy strydoedd Staines-upon-Thames ar 15 Mehefin eleni.

Ddydd Gwener, dywedodd y llu eu bod nhw wedi ymchwilio i’r achos a dod i’r casgliad nad oedd yr heddwas wedi camymddwyn ond bod gwersi i’w dysgu.

Roedd adran safonau proffesiynol y llu, a arweiniwyd gan uwch swyddog ymchwiliadol, wedi penderfynu ar y mater, medden nhw.

Dywedodd Heddlu Surrey eu bod nhw wedi edrych ar 250 darn o fideo ac wedi holi 75 o lygaid-dystion.

Roedden nhw hefyd wedi cael cyngor arbenigwyr ar lesiant anifeiliaid i ddarganfod a oedd y fuwch wedi dioddef yn ddiangen.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nev Kemp fod yr heddlu’n deall pam fod pobl yn teimlo’n gryf am yr hyn ddigwyddodd.

“Ar ôl ymchwilio am bum mis, daeth yr uwch swyddog i'r casgliad bod angen dysgu gwersi ar sut rydym yn ymwneud â da byw sydd ar ffo, ond nad oedd unrhyw drosedd wedi digwydd,” meddai.

“Ategwyd y penderfyniad hwn gan bennaeth safonau proffesiynol Heddlu Surrey, a adolygodd wedyn a oedd unrhyw gamymddwyn posibl.

“Fe benderfynon nhw fod angen dysgu gwersi, ond nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd mewn perthynas â chamymddwyn. 

“Bydd gyrrwr y cerbyd yn dychwelyd i ddyletswyddau rheng flaen maes o law.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.