Swyddfa'r Post yng Nghricieth i gau os na fydd modd dod o hyd i berchnogion newydd
Swyddfa'r Post yng Nghricieth i gau os na fydd modd dod o hyd i berchnogion newydd
Doedd dim prinder cwsmeriaid yng nghangen Cricieth ganol dydd ond ddiwedd Ionawr, bydd y lle'n cau.
Mae'r cwpl sy'n gofalu am y gangen yn rhoi'r gorau iddi ond does neb wedi dod i gymryd eu lle.
"Bydd hi'n goblyn o golled i'r dref, yn goblyn o golled."
Dod yma ar gyfer beth fyddwch chi?
"Codi pres, talu pres i mewn, postio llythyrau, prynu stamps. Mae'n rhyw fath o ganolfan ac yn hysbysebu gweithgareddau yn y dref."
"Mae'r un broblem efo banciau'n cau. Roedd pedwar banc ym Mhwllheli a dim ond dau sy'n agored rŵan."
Ydy hynny'n gwneud y swyddfeydd post yn bwysicach oherwydd bod llefydd yn colli'r banciau?
"'Swn i'n meddwl bod e'n bwysig cadw'r swyddfeydd post yn agored yn fwy pwysig na'r banc.
"Wrth gwrs, ni'n medru postio hefyd."
"Mae'n neis cael cardiau Cymraeg yma a bysa'n siom ofnadwy colli'r lle."
"Ni wedi bod yma am ddeng mlynedd ac yn teimlo bod yr amser wedi dod i symud ymlaen i rywbeth arall.
"Byddwn i'n meddwl bydda rhywun yn cymryd drosodd y swyddfa'r post."
Chi'n crwydro o amgylch yr ardal ac yn cynnig y gwasanaeth i bentrefi wrth ymyl.
"Ie, mae gynnon ni fan sy'n mynd allan. Heddiw, mae Gwynfor yn Edern, Efailnewydd, Abererch a Llangybi.
"Mae gyda ni Dafydd sy'n mynd allan yn ei gar i'r neuadd goffa mewn gwahanol pentrefi fel Llanbedr."
Beth wnawn nhw hebddoch chi?
"Dw i ddim yn gwybod."
Dyna ydy'r pryder, ac mae ansicrwydd be fydd dyfodol swyddfa Caernafon.
Mae'n un cangen sy'n cael ei reoli gan Swyddfa'r Post yn ganolog er colli arian mae'r rheiny.
"Yr hyn sydd yn fy mhoeni yw bod diffyg strategaeth.
"Mae i weld bod nhw ddim hyd yn oed yn gofalu neu'n poeni amdano fo gan Swyddfa'r Post yn ganolog am sut i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol i gymunedau'r cefn gwlad.
"Rhaid cael rhyw fath o gynllunio os ydym am gael yr anialwch o wasanaethau yn digwydd.
"Ac ar yr un pryd, mae banciau'n cau."
Dywedodd Swyddfa'r Post yn ganolog bod nhw'n deall bydd 'na golled nid yn unig yng Nghriccieth ond i gymunedau cyfagos hefyd.
Maen nhw'n gobeithio ailagor y gangen cyn gynted a phosibl ac yn croesawu ceisiadau.
Mae hybyseb ar wefan Swyddfa'r Post yn dweud bod bwlch yma.
Mae'n brysur wrth i'r Nadolig agosau, ond tybed ai hwn fydd yr olaf gyda Swyddfa'r Post yng Nghriccieth?