Newyddion S4C

Menyw o Bontypridd yn cwblhau ras yn Tsieina wyth mis ar ôl iddi bron â marw

27/11/2024
gemma hill.png

Mae menyw o Bontypridd a fu bron â marw wyth mis yn ôl wedi cwblhau hanner marathon yn Tsieina. 

Roedd Gemma Hill, 24, mewn gwrthdrawiad car ym mis Chwefror, ac roedd angen gofal ar frys arni yn y fan a'r lle gan Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle cafodd lawdriniaeth frys o ganlyniad i waedlif ar yr ymennydd, cyn treulio tair wythnos mewn coma. 

Roedd ei gwddf wedi torri mewn dau le a'i phen-glin chwith hefyd. 

Roedd Gemma a'i theulu yn awyddus i ddweud diolch wrth Ambiwlans Awyr Cymru, ac fe benderfynodd y teulu i gwblhau Marathon a Hanner Marathon Chengdu yng ngorllewin Tsieina, wyth mis yn unig ar ôl y gwrthdrawiad. 

Fe gwblhaodd Gemma, ei mam Clare, ei brawd Sean, ei hewythr Andy, a'i thri chefnder Frankie, Dan, a Katie yr hanner marathon, gyda'i modryb Fiona a'i chefndryd Ciara a Liam yn cwblhau y marathon. 

Image
gemma hill 2.png

"Dyweddïodd fy nghefnder Frankie yn ddiweddar gyda'i bartner Duo sy'n dod o Chengdu yn Tsieina. Daeth y syniad i fynd i Tsieina a chwrdd â'i theulu a rhedeg yn y marathon/hanner marathon yn y ddinas pan oedd fy nheulu yn sgwrsio yn yr ystafell deulu yn yr Uned Gofal Dwys pan oeddwn yn yr ysbyty," meddai Gemma.

"Doedd neb yn gallu dychmygu ar y pryd y byddwn yn ei rhedeg - wyth mis i'r diwrnod ar ôl y ddamwain!"

Mae Gemma yn parhau i wella. 

"Rwyf yn ôl yn y gwaith, yn gyrru ac yn mynd i'r gampfa ac yn raddol gryfhau. Yn amlwg, mae gennyf rywfaint o anawsterau parhaus, fel pen tost aml iawn, llai o allu i brosesu gwybodaeth a chofio, sy'n effeithio arnaf yn y gwaith," meddai. 

"Nid yw fy mhen-glin yn rhydd o boen eto, ond rwy'n ceisio peidio â gadael i hyn fy stopio rhag gwneud y pethau rwyf am eu gwneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.