Post coll Penarth: Galwadau am ymchwiliad
Post coll Penarth: Galwadau am ymchwiliad
Mae ymchwiliad wedi darganfod fod cardiau pen-blwydd, sydd gan amlaf ag arian ynddynt yn mynd ar goll yn ardal Penarth, Bro Morgannwg.
Mae honiadau bod y cardiau yn cael eu dwyn.
Dywedodd Rhian Evans wrth ITV Cymru iddi sylweddoli bod ei phost yn mynd ar goll am y tro cyntaf dros yr haf.
Dywedodd fod teulu wedi anfon cardiau pen-blwydd at ei meibion gydag arian ynddynt - ond ni chyrhaeddodd bob cerdyn.
Ar ôl sgwrsio gydag eraill ym Mhenarth, sylweddolodd Ms Evans nad ei thŷ hi oedd yr unig un yn yr ardal oedd wedi colli cael profiad tebyg.
Mae galwadau nawr am ymchwiliad.
"Roedd hi'n ben-blwydd fy mab hynaf ym mis Mai, a sylwais fod ganddo lai o gardiau gan berthnasau nag oedd ganddo fel arfer. Fe wnaethon ni holi perthnasau ac fe ddywedon nhw eu bod wedi anfon cardiau gydag arian ynddynt," meddai Rhian.
"Fe wnaethon ni aros ychydig wythnosau ond doedd dim byd wedi cyrraedd. Ar y pryd, roeddwn i'n meddwl efallai mai dim ond un o'r pethau hynny oedd e, efallai eu bod nhw wedi mynd ar goll yn y post.
"Fis yn ddiweddarach, roedd hi'n ben-blwydd fy ail fab ac fe ddigwyddodd yr un peth eto. Ni chyrhaeddodd yr un o'r cardiau na'r arian.
"Byddai wedi bod tua £20 ym mhob cerdyn felly mae'n debyg bod tua £40 i £60 wedi mynd ar goll rhwng y ddau, felly byddai hynny'n dod i gyfanswm o tua £120."
Fe wnaeth Ms Evans anfon cwyn i’r Post Brenhinol a dywedwyd wrthi nad yw eitemau safonol dosbarth cyntaf ac ail yn cael eu holrhain felly ni ellid ymchwilio i’r mater ymhellach. Does dim gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd i’r cardiau na sut aeth y cardiau ar goll.
Ond roedd hi'n gwybod bod eraill wedi profi problemau tebyg, felly penderfynodd rannu'r hyn oedd wedi digwydd ar grŵp Facebook cymunedol, ac mae'r ymateb wedi ei syfrdanu.
"Cefais lwyth o negeseuon," meddai.
"Cefais ddegau ar ddegau o sylwadau gan bobl yr ardal leol yn dweud bod arian a chardiau yn mynd ar goll, yn enwedig cardiau pen-blwydd ac roedd rhai yn cyrraedd wedi eu hagor yn barod a phethau wedi'u tynnu allan ohonyn nhw."
Ymhlith y sylwadau ar Facebook, roedd pobl yr ardal yn honni:
"Rydyn ni wedi cael arian wedi'i gymryd o gardiau a phost wedi'i rwygo neu wedi'i agor yn rhannol."
"Roedd gen i amlenni wedi'u dwyn oedd yn cynnwys deg punt yr un - roedden nhw i blant."
"Rwyf wedi bod â chardiau ar goll ers mis Tachwedd diwethaf - pob un yn cynnwys arian."
"Fe wnes i gŵyn gan fod gennym ni dalebau ac arian parod wedi'i dynnu o gardiau pen-blwydd."
Dywedodd y Post Brenhinol y byddan nhw'n ymchwilio ac yn anfon rhai stampiau fel iawndal.
Mae Ms Evans ac eraill ym Mhenarth nawr yn galw am ymchwiliad i'r system bost.
“Rwy’n siŵr nad ein tref ni yw’r unig dref y mae hyn yn digwydd, mae angen iddyn nhw weithredu arno nawr,” meddai Ms Evans
Er mwyn ymchwilio ymhellach i'r mater, anfonodd ITV Cymru wyth cerdyn pen-blwydd lliwgar o wahanol leoliadau. Roedd pedwar o'r cardiau yn cynnwys papurau £5.
Cyrhaeddodd saith o’r wyth cerdyn i’r cyfeiriadau cywir, gan gynnwys y cardiau yn cynnwys arian, ond roedd dau yn edrych wedi'u difrodi ac aeth un cerdyn ar goll yn gyfan gwbl.
Roedd dau gerdyn pen-blwydd yn ymddangos wedi'u difrodi pan gyrhaeddon nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol: “Rydym yn cydnabod canlyniadau ymchwiliad ITV Cymru ei hun a gadarnhaodd fod pob llythyr yn cynnwys arian wedi cyrraedd fel y bwriadwyd.
“Mae’r broses o ddosbarthu’r miliynau o lythyrau sy’n cyrraedd bob dydd yn cynnwys rhwydwaith cyfan o ddrymiau llythyrau a pheiriannau didoli a all o bryd i’w gilydd arwain at docio neu fân ddifrod i’r amlen fel y dangosir yn eu henghreifftiau.
“Rydym yn cyhoeddi canllawiau ar-lein ar gyfer anfon pethau gwerthfawr, mae hyn yn cynnwys anfon llythyrau trwy ddosbarthiad arbennig, mesurau fel pacio unrhyw arian yn ddiogel i’w wneud yn anweledig o’r tu allan a pheidio â nodi ar y pecyn bod arian wedi’i amgáu.
"Rydym yn cymryd diogelwch post o ddifrif ac yn ymchwilio i unrhyw bryderon a godir gan gwsmeriaid."