Newyddion S4C

Cyhuddo dau fachgen yn y Barri ar ôl ymosodiad 'difrifol' ar ferch 12 oed

26/11/2024
Heol yr Harbwr, Barri

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ar ferch 12 oed yn y Barri.

Bydd y bechgyn 13 ac 15 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Mae'r ferch 12 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. Nid yw ei hanafiadau yn peryglu ei bywyd, yn ôl y llu.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal ger maes parcio Heol yr Harbwr ar Ynys y Barri tua 17.00 dydd Sul.

Llun: Heol yr Harbwr, y Barri (Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.