Newyddion S4C

Syr Rod Stewart i berfformio yn slot chwedlonol Glastonbury

26/11/2024
Rod Stewart

Syr Rod Stewart fydd yn perfformio yn un o slotiau mwyaf pwysig Glastonbury eleni.

Fe gyhoeddodd trefnydd yr ŵyl Emily Eavis mai ef fydd yn chwarae yn y slot chwedlonol (legends) ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Emily Eavis bod hyn yn "bopeth y bydden ni yn ei ddymuno" a'i bod yn edrych ymlaen.

2002 oedd y tro diwethaf i'r canwr berfformio yng ngŵyl Glastonbury.

Mae nifer o'r sêr wedi canu yn ystod y slot chwedlonol gan gynnwys Shania Twain, Diana Ross, Yusuf/Cat Stevens, Kylie Minogue a'r Fonesig Shirley Bassey.

Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o ran cerddorion fydd i'w gweld yn Glastonbury flwyddyn nesaf.

Wythnos diwethaf fe ddywedodd Rod Stewart a fydd  yn 80 ym mis Ionawr ei fod yn bwriadu rhoi'r gorau i "deithiau byd ar raddfa fawr".

Ond does ganddo ddim bwriad ymddeol meddai.

"Dwi'n caru'r hyn dwi'n gwneud a dwi'n gwneud yr hyn dwi'n caru," meddai.

"Dwi'n heini, mae gen i lond pen o wallt, fe allai redeg 100 metr mewn 18 eiliad a hynny yn 79 sy'n oedran teg." 
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.