Newyddion S4C

Chwech o Gymry i gystadlu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd eleni

26/11/2024
Gerwyn Price, Jonny Clayton a Robert Owen

Fe fydd chwech o Gymry yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd eleni, sydd yn ddwbl y nifer oedd yn cystadlu'r llynedd.

Y tro diwethaf i chwech o Gymry gymryd rhan yn y gystadleuaeth oedd 2022. Chwech yw'r nifer mwyaf erioed i gystadlu yn yr un flwyddyn. 

Cafodd y chwaraewyr olaf eu dewis dydd Llun.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ymhen llai na thair wythnos ym Mhalas Alexandra, Llundain.

Bydd cyn bencampwr y byd Gerwyn Price yn cystadlu eto eleni. Fe enillodd y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn 2021.

Hefyd bydd un o wynebau cyfarwydd eraill dartiau yng Nghymru, Jonny Clayton yn chwarae yn Llundain.

Gan fod Price a Clayton yn 32 uchaf rhestr detholion y byd, maen nhw yn hawlio lle yn ail rownd y gystadleuaeth.

Image
Jim Williams
Jim Williams yn herio Raymond van Barneveld yn y gystadleuaeth y llynedd. Llun: Wochit

Fe wnaeth Jim Williams synnu nifer y llynedd trwy ennill yn erbyn cyn bencampwr y byd Peter Wright.

Fe fydd ef ym Mhalas Alexandra eto eleni ac yn wynebu Paolo Nebrida o'r Philipinau.

Robert Owen yw Cymro arall sydd wedi cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth fwyaf ym myd dartiau eleni.

Dyma'r eildro yn unig i'r dyn o Ben-y-bont ar Ogwr gystadlu.

Am y tro cyntaf ers 2022 fe fydd Nick Kenny yn gwneud ymddangosiad ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd.

Fe hawliodd ei le yn y gystadleuaeth eleni wedi penderfyniad y corff llywodraethu dartiau, y PDC i wahardd Dom Taylor ar ôl iddo fethu prawf cyffuriau

Rhys Griffin yw'r Cymro olaf i ennill ei le yn y gystadleuaeth. 

Littler yn cystadlu eto eleni 

Luke Humphries oedd y pencampwr y llynedd wedi iddo guro Luke Littler yn y rownd derfynol.

Roedd Littler yn 16 oed ar y pryd ac fe fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth eto eleni.

Mae wedi ennill nifer o gystadlaethau yn 2024 gan gynnwys y Grand Slam a'r Uwch Gynghrair ac yn un o'r ffefrynnau i ennill Pencampwriaeth y Byd eleni.

Bydd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd yn cychwyn ar ddydd Sul 15 Rhagfyr ac yn parhau tan 3 Ionawr.

Prif lun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.