Newyddion S4C

Rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod 'yn dechrau gyda dynion'

25/11/2024
Protest yn erbyn trais yn erbyn menywod

Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar ddynion i sefyll o blaid rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn, sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, hefyd yn lansio 16 Diwrnod o Weithredu, ymgyrch fyd-eang i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd.

Yng Nghymru, rhwng 2018 a 2023, fe gynyddodd nifer yr achosion o drais a gafodd eu cofnodi yn erbyn menywod a merched 37%. Mae o leiaf un o bob 12 menyw yn profi trais gan ddynion bob blwyddyn, er bod y gwir niferoedd yn debygol o fod yn llawer uwch. 

Ymgyrch 'Iawn'

Mae ymgyrch 'Iawn' Llywodraeth Cymru yn cysylltu â dynion ifanc a bechgyn ledled Cymru ynghylch parch ac atebolrwydd. 

Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â materion fel gasleitio a rheolaeth drwy orfodaeth, ac yn defnyddio rôl-fodelau cadarnhaol i hyrwyddo cydberthnasau iach, llawn parch. 

Dechreuodd Cal Roberts, 35 oed, o Fagillt yn Sir y Fflint, sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewn perthynas iach pan ddechreuodd ymwneud ag ymgyrch Iawn. Mae'n gwneud ymdrech bob amser nawr i asesu ei ymddygiad tuag at ei bartner presennol, ar ôl profi cyfnod yn ei fywyd pan, mae'n cyfaddef, nad oedd ei ymddygiad o fewn ei gydberthnasau yn iach.

Dywedodd: "Mae deall nodweddion perthynas iach yn allweddol i'n helpu i adnabod ymddygiadau fel casineb a dirmyg at fenywod, gasleitio neu fomio â chariad - pethau na fyddai rhywun efallai wedi sylweddoli eu bod yn niweidiol. Pan ydych chi'n gwybod pa mor niweidiol yw'r ymddygiadau hyn, gallwch ddechrau eu herio a sicrhau nad ydych chi'n cyfrannu at y broblem. 

"Pe bai Iawn wedi bod o gwmpas pan oeddwn i yn fy 20au, dw i'n meddwl y byddai fy mhroblemau wedi eu datrys yn gynt o lawer ac wedi gwneud imi fynd i'r afael â fy ymddygiad yn llawer cynt. 

"Mae angen i bob un ohonon ni ddeall y gallwn ni gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, a bod yn rhaid inni wneud hynny. Dyma sut rydyn ni'n dechrau gwneud newidiadau gwirioneddol a pharhaol. Mae'r cyfan yn dechrau gydag un weithred, un sgwrs - ac mae'n gwneud byd o wahaniaeth."

'Hawl i fyw heb ofn'

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae gan bob menyw yr hawl i fyw heb ofn, trais a chamfanteisio. Nid yw trais yn erbyn menywod a merched yn anochel - mae modd ei atal.

"Mae ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnwys ymrwymiad i roi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal, gan annog newid ymddygiad ymhlith y rhai sydd mewn perygl o fynd ymlaen i ymddwyn yn ymosodol.

"Mae ymgyrch 'Iawn' yn annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac i feddwl am eu hymddygiad eu hunain. Nid lle menywod yw newid eu hymddygiad; mater i ddynion a bechgyn yw ystyried y materion hyn eu hunain a gwneud newidiadau."

Eleni, mae Iawn wedi partneru gyda'r Rhuban Gwyn i lansio canllaw Ffrind Iawn, sy'n cynnig camau ymarferol i ddynion ifanc i gefnogi menywod a herio ymddygiadau niweidiol. Mae'r canllaw yn pwysleisio pŵer pethau bach bob dydd, fel herio iaith amhriodol a gwrando ar brofiadau menywod.

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.