Newyddion S4C

Elfyn Evans yn ail yn Rali Japan

23/11/2024
Elfyn Evans - Rali Japan

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali Japan.

Roedd Evans yn ail i Ott Tänak o Estonia sy’n arwain ar ddiwedd cymal 16 y rali ddydd Sadwrn.

Roedd Evans yn y trydydd safle ym mhencampwriaeth y byd yn dilyn 12 rali gyda Rali Japan yn gorffen y tymor.

Dywedodd Evans ddydd Sadwrn: “Bore grêt ond cwympo nôl pnawn yma a methu lot o gyflymdra. 

"Mae eisiau edrych gyda’r peirianwyr heno a gweithio allan beth sy’n mynd ymlaen."

Fe fydd y rali'n dod i ben yn dilyn pum cymal ddydd Sul.

Llun: X/Elfyn Evans

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.