Newyddion S4C

'Torcalon' pêl-droediwr dawnus sy'n wynebu methu chwarae dros Gymru eto

Enzo Romano

Mae chwaraewr pêl-droed ifanc o Gymru yn wynebu'r posibilrwydd na fydd yn cael chwarae dros ei wlad eto.

Cafodd Enzo Romano ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen, ac mae bellach yn chwarae i dîm dan 16 Cymru, wedi blynyddoedd o gynrychioli'r timoedd iau.

Pan yn wyth oed arwyddodd i Barcelona a symudodd ei deulu i Sbaen lle maen nhw'n parhau i fyw.

Nid oes gan Enzo statws dinasyddiaeth Brydeinig, ac fe gafodd ei gais am ddinasyddiaeth ei wrthod eleni gan y Swyddfa Gartref, gan olygu na fydd yn gallu chwarae i Gymru wedi ei ben-blwydd yn 16 oed.

Dywedodd tad Enzo, Antonio Romano fod y penderfyniad wedi torri calon ei fab.

"Roedd y penderfyniad yn ddinistriol i Enzo," meddai wrth Newyddion S4C.

"Yr hyn oedd yn achosi'r boen fwyaf i mi oedd pan ddywedodd, 'dad, dydw i ddim yn deall pam bod gwlad fy hun, yr un dwi eisiau cynrychioli, ddim yn fy nghydnabod fel Cymro.'

"Mae Enzo yn caru chwarae i Gymru. Dyw e ddim jyst eisiau chwarae pêl-droed rhyngwladol, mae'n Gymro i'r carn a pan 'da chi'n siarad gyda fe rydych chi'n deall faint mae Cymru yn ei olygu iddo.

"Roedd yn dorcalonnus iawn iddo."

Bwriad Antonio ac Enzo yw apelio'r penderfyniad neu gyflwyno cais newydd i'r Swyddfa Gartref.

Image
Enzo ac Antonio Romano
Enzo ac Antonio ar ôl un o gemau Enzo i dîm dan 16 Cymru (Llun: Antonio Romano)

Pam na fydd Enzo yn gallu chwarae dros Gymru?

Fe wnaeth y Swyddfa Gartref wrthod cais Enzo am ddinasyddiaeth Brydeinig, meddai Antonio.

Byddai apelio'r penderfyniad yn costio £450, tra bod cais newydd yn dod gyda chost o £1,250.

Dywedodd y Swyddfa Gartref wrth Newyddion S4C nad oedden nhw'n gallu ymateb i geisiadau unigol.

Yn achos Enzo, Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 yw'r gyfraith berthnasol, gan fod Enzo wedi cael ei eni yn y DU a gadael y wlad cyn Brexit.

Yn ôl y ddeddf honno "mae unigolyn sy’n cael ei eni yn y DU yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig o pryd gafodd ei eni, yn yr achos lle mae un o’i rieni yn Brydeinig neu wedi ymgartrefu yma."

Symudodd Antonio i Gaerdydd ym mis Medi 2006 a'i wraig, Awilda yn 2007, ac fe gafodd Antonio statws preswylfa barhaol (permanent residence) yn 2011 gan ei fod wedi byw a gweithio am bum mlynedd yn barhaol yn y DU.

Ond pan symudodd y teulu i Sbaen, collodd Antonio y statws hwnnw gan ei fod wedi treulio mwy na dwy flynedd tu allan i'r DU.

Image
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Gan nad oedd Antonio ac Awilda wedi derbyn statws preswylfa barhaol pan gafodd Enzo ei eni, nid oedd yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig ac felly fe gafodd ei gais ei wrthod eleni.

Nid oedd Antonio wedi trosglwyddo’i statws i Gynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd chwaith, a bellach mae'n rhy hwyr i wneud hynny.

Yn ôl rheolau cymhwyster (eligibility) FIFA, mae angen i chwaraewr fod yn ddinesydd Prydeinig er mwyn gallu cynrychioli un o dimau'r DU.

'Caru Cymru'

Mae Enzo yn gallu chwarae i dimau ieuenctid Cymru ar hyn o bryd gan fod ganddo dystysgrif geni yn profi ei fod wedi ei eni yng Nghaerdydd.

Ond o 16 oed ymlaen mae timau ieuenctid Cymru yn dechrau chwarae gemau rhagbrofol yr Euros a Chwpan y Byd, sydd yn golygu teithio dramor.

Nid oes gan Enzo pasbort Prydeinig sydd yn golygu na fydd yn gallu cynrychioli Cymru.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Newyddion S4C nad oedden nhw mewn sefyllfa i roi sylw ar y mater.

Cafodd Enzo ei alw i dimoedd ieuenctid yr Eidal, gwlad enedigol ei dad, ond fe wrthododd gan ddweud ei fod eisiau cynrychioli Cymru.

"Llynedd roedd yr Eidal eisiau iddo fe chwarae iddyn nhw, ond doedd e ddim eisiau mynd, roedd e eisiau chwarae i Gymru," meddai Antonio.

"Mae wir yn caru ei wlad, mae ei ffrindiau i gyd yma, fe aeth e i'r ysgol gynradd yma, mae ganddo acen Caerdydd hyd yn oed."

Image
Ystafell wely Enzo yn Barcelona
Ystafell wely Enzo yn Barcelona (Llun: Antonio Romano)

Fe wnaeth Enzo chwarae i glybiau Abertawe a Chaerdydd cyn arwyddo i Barcelona pan yn wyth oed.

Bellach mae'n chwarae i FC Damm, sydd yn academi lwyddiannus yn y ddinas.

Dywedodd Antonio ei fod ef, Enzo a'i deulu eisiau dychwelyd i Gymru, sydd yn "gartref go iawn" iddo.

"Rydym ni eisiau dychwelyd i Gaerdydd, mae'n gartref i mi. Fy nymuniad erioed oedd eisiau cael fy ngeni yng Nghymru.

"Mae gennyf i fwy o ffrindiau yng Nghymru na'r Eidal. Pob tro dwi'n dod 'nôl dwi'n dweud wrth fy ngwraig bod fi'n mynd adref.

"Mae Enzo wedi dweud pan mae'n gorffen ysgol yn Sbaen ei fod eisiau mynd i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Yn amlwg mae Brexit yn gwneud pethau'n anodd a byddai cael swydd i mi yn her. Ond fy mab i yw Enzo a byddai'n gwneud unrhyw beth iddo, achos dyna mae'n haeddu."

Ychwanegodd Antonio bod ei gyfreithiwr yn ystyried os ddylai apelio'r penderfyniad neu gyflwyno cais newydd.

Pe bai rhain yn cael eu gwrthod, dywedodd Antonio y byddai'n mynd a'r achos i'r llys.

Prif lun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.