Arian i Brifysgol Caerdydd ymchwilio effeithiau Covid hir

Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn bron i £2m ar gyfer ymchwilio effeithiau Covid hir.
Gall Covid hir achosi symptomau hirdymor fel blinder dwys, diffyg anadl, poen yn y frest a meddwl “niwlog”.
Yn ôl Golwg360, bydd yr arian hefyd yn cyfrannu tuag at ymchwil i rôl y system imiwnedd wrth frwydro afiechyd hirdymor.
Gobaith yr ymchwil fydd cynhyrchu adnoddau ar gyfer ymarferwyr y dyfodol.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Dai Lygad