'Mae’r hype wedi cynyddu': Beth yw Bluesky, ac a fydd yn herio X?
'Mae’r hype wedi cynyddu': Beth yw Bluesky, ac a fydd yn herio X?
Mae'r ap Bluesky wedi gweld twf yn nifer ei ddefnyddwyr yn ddiweddar, ond pam bod hyn wedi digwydd a pha ddefnydd sydd yna o’r platfform cymdeithasol yng Nghymru?
Un o’r ffigyrau amlwg diweddar yng Nghymru i greu cyfrif ar safle Bluesky ydy’r Prif Weinidog Eluned Morgan. Mae ymhlith nifer fawr o wleidyddion sydd wedi sefydlu presenoldeb ar y cyfrwng cymdeithasol yn ystod y dyddiau diwethaf.
Yn ôl Bluesky, mae miliwn o ddefnyddwyr newydd wedi bod yn creu cyfrifon ers ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Yn ôl Swyddfa’r Prif Weinidog, er y presenoldeb newydd ar Buesky, “Does dim cynlluniau iddi adael X.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru" “Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd ac effeithiol o ymgysylltu â’r cyhoedd, ar faterion sy’n effeithio arnynt.”
Pam bod ‘na gynnydd aruthrol wedi bod dros gyfnod cymharol fyr?
Mae digwyddiadau gwleidyddol yn America yn rhannol gyfrifol yn ôl Dr Rhys Jones sydd yn Uwch-ddarlithydd Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, ond ffactorau eraill eraill hefyd yn ymwneud â strwythur y platfform.
“Mae tua 20 Miliwn ar Bluesky bellach," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Fe allwch chi yn weddol hawdd nawr, ddilyn nifer fawr o bobl sydd â’r un diddordebau a chi, sydd yn yr un maes a chi.
"Os chi ishe dilyn gwleidyddion Prydeinig, allwch chi wasgu un botwm a wedyn eu dilyn nhw i gyd, neu Cymry Cymraeg neu academyddion y cyfryngau neu pwy bynnag.
"Er bod e wedi bodoli ers mwy na blwyddyn, mae’r hype o’i amgylch e wedi cynyddu.”
Erbyn hyn, mae papur newydd y Guardian wedi cyhoeddi na fydd o hyn mlaen yn postio ar X, gan ddweud ei fod wedi datblygu’n blatfform gwenwynig.
Mae’r newyddiadurwr Jon Sopel ymhlith rhai o’r unigolion amlwg hefyd sydd newydd adael y platfform.
Ac er bod ganddo 35,000 o ddilynwyr ar X, mae’r arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol Owen Williams hefyd wedi troi ei gefn ar y safle.
Mae’r rheswm dros hynny’n rhannol yn ymwneud ag anfodlonrwydd ynglŷn â’r ffordd y mae’r perchennog, y biliwnydd Elon Musk yn ei ddefnyddio fel llwyfan gwleidyddol.
“Mae Musk wedi cyfaddef yn agored ei fod e’n defnyddio X fel offeryn i ddylanwadu ar syniadau, polisïau gwleidyddol, o’r dde eithafol," meddai.
“Beth mae Bluesky yn ei wneud sydd yn wahanol i X bellach yw gadael i ti lunio dy brofiad di. Dyw’r algorithm ‘na fel sydd yn Threads a X ddim yn pwsho cynnwys ato ti.
Mae BBC Cymru yn parhau i ddefnyddio X, a does ‘na ddim cynlluniau yn ôl y gorfforaeth i sefydlu cyfrif Bluesky, ond mi allai hynny newid.
Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym yn adolygu ein defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn barhaus yn unol â datblygiadau yn y diwydiant a defnydd y gynulleidfa.”
Mae gan S4C rhywfaint o bresenoldeb ar Bluesky eisoes, ac mae’r sefydliad yn parhau i ddefnyddio amrywiaeth o’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys X.
“Mae’n bwysig ein bod yn cyrraedd ein cynulleidfaoedd ar ba bynnag blatfform maent yn ei ddefnyddio fwyaf ac mae hynny’n flaenoriaeth strategol.” meddai llefarydd.
Er y twf aruthrol yn nefnyddwyr Bluesky, mae X yn dweud bod ganddo 600 Miliwn o ddefnyddwyr o hyd, gydag arbenigwyr yn derbyn bod ‘na le i’r ddau safle.
Gydag X yn tueddu bellach serch hynny i wthio safbwyntiau asgell dde, ai apelio at y chwith fydd rôl Bluesky?
Mae’n bosib y bydd yna hollt yn y gynulleidfa yn ôl Dr Rhys Jones o Brifysgol Abertawe.
“Os oes yna hollt, mae’n rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu mewn pob math o gyfrwng a phob math o gyfryngau.
"Os edrychwch chi ar bapurau newydd ym Mhrydain, fyddai’r Mirror a’r Guardian yn fwy ar yr asgell chwith, pethau fel y Times, falle mwy yn y canol, falle tua’r dde, a’r Telegraph a’r Sun ar yr asgell dde.
"Felly y'n ni wastad wedi cael hwnna o fewn y cyfryngau. Ry’N ni’n anghofio pa mor wleidyddol efallai yw’r cyfryngau."