Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Y ras i gyrraedd y chwech uchaf yn poethi

23/11/2024
Y Seintiau Newydd

Mae’n benwythnos mawr yn yr uwch gynghrair wrth i’r ddau uchaf gyfarfod yn Neuadd y Parc – wedi i’r Seintiau Newydd golli ganol wythnos yn erbyn Llansawel.

Roedd gan y Seintiau gyfle i godi o fewn pwynt i’r ceffylau blaen, Pen-y-bont nos Fercher, ond fe gollodd y pencampwyr am y pedwerydd tro’n y gynghrair y tymor hwn.

Chwe rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau rheiny yn llechu yn yr hanner isaf.

Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi croesi'r trothwy hwnnw, a dyw Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau.

Caernarfon (6ed) v Y Barri (5ed) - Wedi ei gohirio o achos y tywydd

Hwlffordd (3ydd) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 8 gôl mewn 16 gêm), ond dim ond y tri isaf sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl).

Dim ond 28 gôl sydd wedi ei sgorio yn 16 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.75 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.

Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.

31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai triphwynt i Hwlffordd brynhawn Sadwrn yn eu codi dros y trothwy hwnnw.

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd mewn perygl o fethu’r nod eleni ar ôl rhediad o saith gêm gynghrair heb ennill ers eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Medi.

Enillodd y ddau dîm ar giciau o’r smotyn yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru y penwythnos diwethaf, a does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal yn y gynghrair na’r Bala (9) a Hwlffordd (5) y tymor hwn, felly mae’n debygol o fod yn gêm agos ar Barc Waun Dew.

Enillodd Hwlffordd o 2-0 oddi cartref ar Faes Tegid yn gynharach yn y tymor, ond dyw’r Adar Gleision erioed wedi ennill gêm gartref yn erbyn Y Bala.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ✅➖✅➖✅❌

Y Bala: ➖➖➖➖➖

Met Caerdydd (4ydd) v Aberystwyth (12fed) 

O’r diwedd mae Aberystwyth wedi penodi rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Anthony Williams ar ddechrau mis Hydref.

Antonio Corbisiero sy’n dychwelyd i gymryd yr awenau ar Goedlan y Parc, dwy flynedd ers gadael y rôl fel rheolwr wedi un tymor wrth y llyw yn 2021/22 pan orffennodd y clwb yn 8fed, sef eu safle gorau yn y pum tymor diwethaf.

Hanner ffordd drwy’r tymor ac mae Aberystwyth un pwynt o dan ddiogelwch y 10fed safle, felly mae digon o amser i Corbisiero arwain y Gwyrdd a’r Duon o’r dyfnderoedd.

Wedi rhediad o gemau caled bydd Met Caerdydd yn gobeithio troi’r gornel ddydd Sadwrn ar ôl ennill dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Ond mae Met Caerdydd ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 2-1 ar Goedlan y Parc ym mis Medi (ennill 7, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ͏❌➖✅❌➖

Aberystwyth: ͏❌✅❌❌✅

Y Fflint (11eg) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd hi’n gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp rhwng Y Fflint a Llansawel, sef y ddau glwb esgynnodd i’r uwch gynghrair eleni, ac sy’n ysu i beidio syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen.

Bydd Llansawel yn llawn hyder ar ôl curo’r Seintiau Newydd nos Fercher gan godi uwchben Y Fflint i ddiogelwch y 10fed safle.

Llansawel yw’r pedwerydd tîm i guro’r Seintiau yn y gynghrair y tymor hwn, ond mae’r tri chlwb blaenorol i wneud hynny wedi methu ac ennill eu gêm ganlynol ar ôl trechu’r pencampwyr (Pen-y-bont – curo’r Seintiau yna colli vs Llansawel, Y Bala – curo’r Seintiau yna cyfartal vs Llansawel, Caernarfon – curo’r Seintiau yna colli vs Drenewydd).

Mae’r Fflint wedi colli eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf, ac ond wedi sicrhau pedwar pwynt o’r 24 posib yn eu wyth gêm gartref yn y Cymru Premier JD y tymor hwn.
 

Mae Llansawel wedi colli pump o’u chwe gêm oddi cartre’n y gynghrair, ond mae gan hogiau Andy Dyer gêm wrth gefn.

Gorffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gyntaf erioed rhwng y clybiau ym mis Medi gyda Elliott Reeves a Kian Jenkins yn sgorio’r goliau yn yr ail hanner ar yr Hen Heol.

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ͏➖❌❌❌❌

Llansawel: ❌❌✅❌✅

Y Seintiau Newydd (2il) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd y Seintiau yn gobeithio taro’n ôl yn erbyn Pen-y-bont wedi iddyn nhw golli ganol wythnos o 3-1 yn erbyn Llansawel, sydd ar waelod y gynghrair – y tro cynta ers 2011 i’r Seintiau golli yn erbyn tîm o waelod y gynghrair (Lido Afan). 

Dyma’r tro cyntaf i’r Seintiau golli pedair gêm gynghrair mewn tymor ers 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah.

2018/19 oedd y tro diwethaf i glwb golli pedair gêm gynghrair mewn tymor a mynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth, a’r Seintiau Newydd oedd rheiny.

Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths yn cystadlu am y bencampwriaeth ar ôl colli dim ond un o’u 22 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).

Dyw Pen-y-bont heb golli yn eu 14 gêm gynghrair oddi cartref diwethaf (ennill 11, cyfartal 3), ers eu hymweliad diwethaf â Neuadd y Parc ym mis Rhagfyr 2023 (YSN 3-0 Pen).

Pen-y-bont oedd yn dathlu wedi’r gêm gyfatebol ym mis Medi ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd diolch i beniad cynnar gan Clayton Green a pheniad hwyr gan Chris Venables yn Stadiwm Gwydr SDM (Pen 2-1 YSN)

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

Pen-y-bont: ͏✅➖➖✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.