Sêr y byd adloniant yn angladd y cerddor Liam Payne
Mae sêr o'r byd cerddoriaeth wedi ymgynnull ar gyfer angladd y canwr Liam Payne ddydd Mercher.
Bu farw'r artist 31 oed ar 16 Hydref ar ôl disgyn o falconi gwesty ym mhrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires.
Fe ddaeth i amlygrwydd fel aelod o'r band poblogaidd One Direction.
Roedd nifer o enwau amlwg o'r byd adloniant ymysg y galarwyr yn Eglwys Santes Fair, Amersham, Sir Buckingham, ar gyfer y gwasanaeth.
Roedd Harry Styles, Zayn Malik, Niall Horan a Louis Tomlinson - cyd-aelodau Mr Payne yn One Direction, yn yr angladd.
Fe ddaeth degau o bobl leol a chefnogwyr i'r angladd hefyd i dalu eu teyrngedau.
Daeth Payne i amlygrwydd gyntaf pan oedd yn 14 oed, pan ganodd 'Fly Me To The Moon' ar The X Factor.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei ddewis ar y rhaglen honno i ymuno gyda band o bedwarawd ifanc - pan sefydlwyd One Direction allan o'r ymgeiswyr.
Aeth yn ei flaen i sefydlu gyrfa llwyddianus ar ôl i'r band hwnnw ddirwyn i ben.