Newyddion S4C

Craig Bellamy: Tîm Cymru wedi 'cyrraedd ei dargedau'

20/11/2024
Craig Bellamy

Mae rheolwr Cymru, Craig Bellamy, wedi dweud fod ei dîm wedi “cyrraedd y targedau rydym wedi ei osod” yn dilyn buddugoliaeth y crysau cochion yn erbyn Gwlad yr Ia nos Fawrth.

Fe enillodd Cymru o 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Gwlad yr Iâ ac fe gollodd Twrci o 3-1 yn erbyn Montenegro. 

Roedd y canlyniad annisgwyl yma gan Twrci yn golygu bod Cymru yn sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd sef haen A. 

Mae Bellamy wedi dweud ei fod yn falch o’r hyn mae Cymru wedi ei gyflawni ers iddo gael ei benodi’n rheolwr. 

“Dyw’r teimlad ddim cweit wedi suddo mewn eto,” meddai wrth siarad ar ôl y gêm. 

“Mae wedi bod yn wersyll positif iawn. Beth bynnag oedd canlyniad y gêm yma, mae wedi bod yn wersyll hynod o bositif. 

“Y targedau rydyn ni wedi gosod o’r cychwyn cyntaf – dwi’n teimlo ein bod ni wedi cyflawni'r rheina. 

“Ac rydyn ni wedi eu cyflawni yn eithaf sydyn.

“Roedd ‘na un neu ddau brawf… ond dwi’n teimlo ein bod ni wedi gallu datblygu lle na fydden ni wedi llwyddo cwpwl o gemau yn ôl,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.