Newyddion S4C

'Dwi am fethu'r sioe': Ymateb Wynne Evans ar ôl gadael Strictly Come Dancing

'Dwi am fethu'r sioe': Ymateb Wynne Evans ar ôl gadael Strictly Come Dancing

Mae Wynne Evans wedi ymateb wedi iddo adael cyfres Strictly Come Dancing dros y penwythnos. 

Y Cymro oedd yr wythfed cystadleuydd i adael y sioe, a hynny wedi iddo gael y cyfle i berfformio dawns y Charleston gyda'i bartner dawnsio Katya Jones yn Blackpool ddydd Sadwrn.

Wrth siarad ar ei raglen ar BBC Radio Wales fore Llun, dywedodd: "Mae'n hen ddiwrnod rhyfedd heddiw oherwydd rydych chi wedi arfer cymaint efo'r drefn o godi, mynd i ymarferion ac ati ac heddiw, does dim rhaid i chi wneud hynny bellach. 

"Mae fy nhraed i'n ddiolchgar ond dydy fy meddwl i ddim."

Ychwanegodd: "Dwi am fethu'r sioe, does dim dwywaith am hynny.

"Dwi wedi fy llorio gan y nifer o negeseuon y bore 'ma...mae'n rhaid i ni gofio mai sioe adloniant ydy hi ac fe ges i gymaint o hwyl, do'n i fyth am fod y dawnsiwr gorau ond gobeithio ein bod ni wedi dod â gwên i gartrefi ychydig o bobl."

Yn gynharach yn y gyfres, dywedodd y canwr fod yr ymateb i “jôc wirion” y gwnaeth yn ystod y gystadleuaeth  yn “dorcalonnus”.

Cafodd clipiau ohono a Katya Jones eu rhannu, gyda channoedd o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu nad oedd eu partneriaeth yn fêl i gyd.

Roedd y cyntaf yn dangos Katya Jones yn anwybyddu ymdrech gan Wynne Evans i roi ‘pawen lawen’ iddi, a’r ail yn ei dangos yn gwthio ei law oddi ar ei chanol.

Dywedodd y partneriaid yn ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol mai “jôc wirion” ydoedd, a bod y ddau yn “ffrindiau go iawn”.
 



 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.