Newyddion S4C

'Brawychus iawn': Ymateb Americanwr o dras Cymreig i fuddugoliaeth Trump

ITV Cymru 18/11/2024

'Brawychus iawn': Ymateb Americanwr o dras Cymreig i fuddugoliaeth Trump

“Roedden ni gyd yn disgwyl newid mawr.”

Dyma ymateb Rhys Davis, Americanwr ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg, i ganlyniad diweddar yr etholiad arlywyddol yn yr UDA.

Cafodd Rhys ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg gan ei fam-gu, sydd yn wreiddiol o Geredigion. 

Fe fewnfudodd hi i Ohio yn ystod y 70au.

Yn 19 oed, etholiad 2024 oedd cyfle cyntaf Rhys i bleidleisio yn UDA.

“Dwi’n dod o gefn gwlad yn wreiddiol… mae rhan fwyaf o bobl yna fydden i’n dweud yn cefnogi Trump yn gryf iawn," meddai.

Dros y Democratiaid wnaeth Rhys bleidleisio. Wrth i Donald Trump benodi ei gabinet, mae’n anghytuno â pholisïau’r Arlywydd ar faterion fel hawliau atgenhedlol:

“I fi oedd e’n siomedig, ond… i’r menywod yn fy mywyd yn enwedig, oedd e’n frawychus iawn.”

Mae Rhys yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Talaith Ohio, ac er ei fod wedi digalonni gyda chanlyniad yr etholiad, mae'n dweud ei fod wedi sylwi ar newid ym mherthynas pobl ifanc a phleidleisio:

“Oedd yna gymaint o sylw gan bobl ifanc gyda phethau etholiadol ac yn y gorffennol oedd yna ddim cymaint o ddiddordeb yn y llywodraeth.”

Yn ôl NBC News, Trump yw’r ymgeisydd gweriniaethol sydd wedi denu'r nifer fwyaf o bleidleiswyr ifanc dan 30 ers 2008.

Wrth ymateb i nifer y dynion ifanc wnaeth bleidleisio dros Trump, meddai Rhys:

“Mae'n nhw’n teimlo fel bod nhw wedi colli eu lle.

“Mae Trump yn hoff iawn o siarad am bŵer gyda’r dyn traddodiadol… ni di gweld y neges yna yn estyn, yn cysylltu, â lot o bobl ifanc.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.