Newyddion S4C

Cwpan Cymru JD: Timau o'r cynghreiriau is yn gobeithio creu sioc yn rownd y 32 olaf

Sgorio 16/11/2024
Chwaraewyr CPD Llanuwchllyn yn dathlu ar ôl ennill yn erbyn Y Drenewydd

Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.

Nos Wener, roedd Afan Lido wedi sicrhau eu lle yn y rownd nesaf gyda buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn yn erbyn Treforys.

Dim ond saith allan o 12 clwb yr uwch gynghrair sydd wedi llwyddo i gyrraedd y drydedd rownd, a bydd o leiaf dau dîm arall o’r haen uchaf yn gadael y gystadleuaeth yn y rownd hon gan bod Met Caerdydd yn wynebu’r Seintiau Newydd, a’r Fflint yn croesawu’r Bala brynhawn Sadwrn.

Dyma'r gemau fydd y cael eu chwarae ddydd Sadwrn, gyda'r rhifau yn dynodi ym mha haen mae bob tîm yn chwarae.

Airbus UK (2) v Goytre (3)

Bae Colwyn (2) v Rhuthun (2)

Caerau Trelai (2) v Rogerstone (4)

Caersws (2) v Bangor 1876 (2)

Cambrian (2) v Llandudno (2)

Hotspur Caergybi (3) v Bae Trearddur (3)

Llanelli (2) v Y Pîl (4)

Llanrwst (3) v Dinbych (2)

Llanuwchllyn (3) v Prifysgol Abertawe (3)

Met Caerdydd (1) v Y Seintiau Newydd (1)

Penydarren (4) v Caerfyrddin (2)

Rhydaman (2) v Hwlffordd (1)

Trefelin (2) v Cei Connah (1)

Y Fflint (1) v Y Bala (1)

Yr Wyddgrug (2) v Llansawel (1)

Chwaraeodd Met Caerdydd yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol y tymor diwethaf, ac er i’r myfyrwyr fynd 2-0 ar y blaen, fe frwydrodd y Seintiau’n ôl ac ennill o 6-2 yn y pen draw.

Mae’r Fflint a’r Bala wedi cyfarfod yn y gwpan yn 2018, 2019 a 2022 a hon fydd y drydedd gêm rhwng y timau eleni ar ôl i’r Bala ennill unwaith, cyn cael gêm gyfartal ar Gae y Castell fis diwethaf.

Bydd deiliaid y gwpan, Cei Connah yn teithio i Ddrefelin o Gynghrair y De, ble enillodd y Nomadiaid o 4-0 yn y drydedd rownd yn 2021.

Ar ôl curo Aberystwyth yn y rownd ddiwethaf, bydd Rhydaman yn ceisio achosi sioc arall ddydd Sadwrn yn erbyn Hwlffordd o’r haen uchaf.

Bydd Yr Wyddgrug hefyd yn anelu i drechu clwb o’r uwch gynghrair wrth i Lansawel wneud y daith hir i Sir y Fflint ddydd Sadwrn.

Mae tri chlwb o’r bedwaredd haen wedi llwyddo i gyrraedd y drydedd rownd, ac mae’r tri yn wynebu timau o Gynghrair y De (ail haen).

A darbi fawr Ynys Cybi yw un o gemau mwyaf y penwythnos wrth i Hotspur Caergybi gystadlu gyda Bae Trearddur am le yn y bedwaredd rownd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.