Plas Tan y Bwlch: Tynnu plasty yn Eryri oddi ar y farchnad am y tro
Fe fydd Plas Tan y Bwlch yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad agored am y tro, yn dilyn pryderon yn lleol am ei ddyfodol.
Pan roddwyd Plas Tan y Bwlch ym Maentwrog ar y farchnad agored gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn mis Awst, codwyd pryderon gan y gymuned leol ynghylch sicrwydd mynediad yn y dyfodol i Lyn Mair a’r coetiroedd cyfagos.
Roedd ar werth am £1.2m, a cyn ei drawsnewid yn ganolfan addysg gan gynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl ers bron i 50 mlynedd, roedd Plas Tan y Bwlch yn blasty gwledig.
Gyda 27 o ystafelloedd, mae 10 o bobl yn gweithio ar y safle erbyn hyn.
Yn ystod cyfarfod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher, pleidleisiodd yr aelodau i dynnu Plas Tan y Bwlch oddi ar y farchnad dros dro "er mwyn darparu mwy o amser i brynwyr posibl a grwpiau cymunedol ddatblygu eu cynlluniau ymhellach".
'Archwilio pob opsiwn'
Bydd hyn yn cynig cyfle i "archwilio pob opsiwn" ar gyfer dyfodol y safle yn llawn meddai'r Awdurdod.
Mewn datganiad, dywedodd swyddogion: "Ni fydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol Plas Tan y Bwlch yn cael ei wneud tan gyfarfod yr Awdurdod ar Ebrill 30ain, 2025.
"Bryd hynny, bydd yr aelodau’n ystyried cynllun ar gadw Llyn Mair a’r mwyafrif o’r coedlannau i aros dan berchnogaeth yr Awdurdod gyda’r bwriad y bydd gweddill yr adeiladau a’r tiriogaeth yn cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo i fentrau cymunedol."
Dywed yr Awdurdod nad yw cadw’r prif adeilad heb bartner yn opsiwn bellach oherwydd nifer o ffactorau, "yn bennaf heriau ariannol"
Ond mae’r Awdurdod yn parhau i fod yn agored i drafodaethau gyda grwpiau cymunedol a phrynwyr preifat.
Bydd sesiwn galw heibio arall yn cael ei threfnu ar gyfer dechrau’r gwanwyn, gan roi cyfle i’r gymuned dderbyn diweddariadau ar unrhyw ddatblygiadau ac i ddarparu adborth pellach ar y cynlluniau cyn cyfarfod yr Awdurdod ym mis Ebrill.
Ym mis Chwefror, penderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddilyn dull deuol o ran dyfodol Plas Tan y Bwlch. Roedd hyn yn cynnwys cynnig y safle ar y farchnad agored neu bartneru yn ogystal â datblygu trafodaethau gyda grwpiau cymunedol er mwyn canfod pa opsiynau oedd ar gael.
Wedi dilyn y dull hwn daeth cynnig gan darpar brynwr i law yn ogystal a diddordeb gan bartneriaid posib eraill yn ychwanegol i’r grwp cymunedol oedd yn parhau i drafod.
Pan roddwyd Plas Tan y Bwlch ar y farchnad agored yn mis Awst, codwyd pryderon gan y gymuned leol ynghylch sicrwydd mynediad yn y dyfodol i Lyn Mair a’r coetiroedd cyfagos.
I fynd i’r afael â phryderon, cynhaliodd yr Awdurdod sesiwn galw heibio agored ar Hydref 14eg, a fynychwyd gan 180 o unigolion, ac yn ogystal, derbyniwyd adborth pellach drwy ohebiaeth gyda swyddogion y Parc Cenedlaethol. Ar ôl adolygu’r sylwadau, nododd yr Awdurdod fod mwyafrif o’r ymatebwyr wedi mynegi cefnogaeth dros gynnal mynediad cyhoeddus i Lyn Mair a’r coetiroedd.