Y Ddadl Fawr: Tu ôl i'r llen gyda Bethan Rhys Roberts

Y Ddadl Fawr: Tu ôl i'r llen gyda Bethan Rhys Roberts

Bydd arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol mwyaf yn mynd benben â’i gilydd yn Y Ddadl Fawr ar S4C nos Iau.

Bethan Rhys Roberts fydd arwain y drafodaeth yn fyw o’r Egin yng Nghaerfyrddin am 20.00, bythefnos yn unig cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Fe fydd y ddadl yn cael ei chynnal o flaen cynulleidfa o 60 o aelodau o’r cyhoedd.

Yn cynrychioli’r pleidiau fe fydd:

  • Helen Jenner o Reform UK 
  • Jane Dodds o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru
  • Paul Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig
  • Eluned Morgan o Lafur Cymru
  • Tessa Marshall o’r Blaid Werdd

Fe fydd y Ddadl Fawr yn cael ei ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Newyddion S4C

Bydd cyfle hefyd ar ol y ddadl i glywed ymateb gohebwyr a sylwebwyr o’r Stafell Sbin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.