Dedfrydu dynes o Wynedd am ddwyn bron i £5,000 gan ddyn oedrannus

llys y goron caernarfon.png

Mae dynes o Wynedd a gafodd ei chyhuddo o ddwyn bron i £5,000 o gerdyn banc dyn 89 oed oedd gyda phroblemau iechyd wedi cael dedfryd carchar wedi ei ohirio.

Fe wnaeth Lowri Williams, 61 oed, o Bwllheli gyfaddef i dwyll, gan dderbyn dedfryd carchar am 34 wythnos wedi ei gohirio am 18 mis. 

Fe fydd hi hefyd yn destun cyrffyw rhwng 19:00 a 07:00 am gyfnod o dri mis. 

Dywedodd y Barnwr Simon Mills yn Llys y Goron Caernarfon: "Nid yw'n fater o bryder i'r llys os ydy hynny yn golygu na fyddwch chi'n gallu bod yn nathliadau penblwydd eich merch ym mis Mai."

Cafodd Williams orchymyn atal am bum mlynedd ac fe fydd yn rhaid iddi dalu iawndal o £1,100, sef £20 yr wythnos. 

Ychwanegodd y Barnwr Mills: "Fe wnaethoch chi ymddwyn mewn ffordd hollol anonest tuag at ddyn bregus oedd yn ymddiried ynoch chi ac fe wnaethoch chi ei drin yn y ffordd fwyaf ffiaidd."

Dywedodd Elen Owen ar ran yr amddiffyniad fod Williams wedi bod yn gweithio yn y diwydiant gofal.

"Roedd hi'n cael trafferthion ariannol, ac fe wnaeth hi gymryd mantais o haelioni'r achwynydd a mynd yn rhy bell," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.