Corff Gwyddeles oedd ar goll wedi ei ddarganfod ar draeth yng Nghricieth
Mae cwest wedi clywed mai corff dynes oedd ar goll o Iwerddon gafodd ei ddarganfod ar draeth yng Nghricieth ar ddechrau'r mis.
Cafodd y cwest ei agor yng Nghaernarfon ddydd Iau wedi i gorff Elizabeth Ann Dunne, 63 oed o Ddulyn gael ei ddarganfod ar y traeth ar 4 Ebrill.
Roedd yr heddlu yn Iwerddon wedi lansio apêl i ddod o hyd iddi wedi iddi fynd ar goll ar 20 Mawrth.
Clywodd y cwest bod ei chorff wedi ei adnabod yn ffurfiol drwy ddefnyddio prawf DNA.
Yn ystod y gwrandawiad byr dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod y corff wedi ei ddarganfod ychydig cyn 20:00 gan aelod o'r cyhoedd.
Ychwanegodd y crwner: "Mae ymchwiliadau pellach yn parhau o ran achos y farwolaeth.
"Mae gen i reswm digonol i amau bod achos y farwolaeth yn annaturiol."
Cafodd y cwest ei ohirio.
