Cyhoeddi cofeb i'r Frenhines Elizabeth II yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cofeb i'r Frenhines Elizabeth II yn cael ei hadeiladu yng Nghymru.
Cyhoeddodd Swyddfa'r Cabinet yr wythnos hon fod cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU wedi ei ddarparu i adeiladu cofebau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi faint o gyllid yn union sydd wedi cael ei roi i'r cenhedloedd.
Dywedodd Swyddfa'r Cabinet wrth Newyddion S4C mai mater i Lywodraeth Cymru oedd penderfynu'r union gost derfynol, lleoliad, amserlen a pha fath o gofeb fydd yn cael ei chreu.
Pan ofynnodd Newyddion S4C i Lywodraeth Cymru am y manylion uchod, dywedodd llefarydd mai "mater i'r Llywodraeth nesaf fydd hynny wedi Etholiad y Senedd ar 7 Mai."
Bu farw’r Frenhines, a deyrnasodd am 70 mlynedd, yng Nghastell Balmoral yn yr Alban ar 8 Medi 2022 yn 96 oed. Daeth Charles III yn Frenin yr un diwrnod.
Ym mis Medi 2024 fe gafodd cynlluniau eu cyhoeddi i greu cofeb er anrhydedd i Elizabeth II ym Mharc St James yng nghanol Llundain.
'Gofod i adlewyrchu'
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer bydd y gofeb yn cynnig "gofod i adlewyrchu" ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
"Fel ein brenhines, sydd wedi gwasanaethu hiraf, neilltuodd y Frenhines Elizabeth II ei bywyd cyfan i wasanaethu’r cyhoedd.
"Bydd y genedl yn coffáu ei theyrnasiad rhyfeddol gyda chofeb sy’n cynnig lle i adlewyrchu i genedlaethau i ddod."
Ar ddechrau'r wythnos hon fe gafodd mwy o fanylion eu rhyddhau am y gofeb.
Fe fydd cerflun efydd o'r Frenhines yn ei gwisg Garter yn cael ei adeiladu, yn ogystal â cherflun o'r Tywysog Philip yn ei wisg filwrol.
Hefyd fe fydd pont wedi’i hysbrydoli gan goron y Frenhines yn cael ei hadeiladu.
