Cynllun tai newydd ym Mhen Llŷn yn codi pryderon am effaith ar y Gymraeg

Cynllun tai newydd yn Chwilog

Mae cynlluniau i adeiladu 25 o dai fforddiadwy ym mhentref Chwilog, Gwynedd wedi arwain at wrthwynebiad chwyrn yn lleol, gyda phryderon am effaith ar gymeriad y pentref a’r Gymraeg.

Mae deiseb yn erbyn y datblygiad wedi casglu tua 160 o lofnodion, ac mae Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi penderfynu’n unfrydol i wrthwynebu’r cais.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Williams Homes (Bala) Ltd ar y cyd â Grŵp Cynefin ar gyfer safle ger Brynhyfryd a Chae Capel. 

Mae’r cynllun yn cynnwys 25 o gartrefi fforddiadwy, gyda chymysgedd o fflatiau, tai a byngalos, yn ogystal â mynediad newydd i gerbydau o’r B4354 a gwaith cysylltiedig.

Pryderon ieithyddol

Mae’r cyngor cymuned yn pwysleisio bod Chwilog yn ardal o “bwysigrwydd ieithyddol”, ac ymhlith yr ardaloedd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Dywedon nhw ei bod yn “anodd integreiddio 25 o dai i’r pentref heb greu problem ieithyddol”, gan alw am sicrhau bod gan denantiaid gysylltiad lleol cryf.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Mae Chwilog yn bentref Cymreig, mae angen parchu hyn, fel bod hyn yn cael ei ystyried wrth osod y tai.”

Maen nhw hefyd yn galw am gyflwyno Polisi Dyrannu Lleol newydd a fyddai’n rhoi ystyriaeth benodol i’r Gymraeg wrth ddyrannu tai.

Yn ogystal â’r Gymraeg, codwyd nifer o bryderon eraill, gan gynnwys:

  • diogelwch ffyrdd a cherddwyr 
  • capasiti’r ysgol leol 
  • materion carthffosiaeth a draenio  
  • yr angen am gyfraniadau tuag at addysg a mannau chwarae 

Dywedodd rhai trigolion hefyd fod maint y datblygiad yn rhy fawr o gymharu â maint y pentref ac y gallai’r cynllun bron ddyblu nifer y tai cymdeithasol mewn cyfnod byr.

Mae eraill wedi mynegi pryder y gallai’r datblygiad newid cymeriad y pentref yn sylweddol, ac arwain at ostyngiad yn y ganran o drigolion sy’n siarad Cymraeg.

Safbwynt y cynllunwyr

Yn ôl dogfennau cynllunio, mae’r datblygiad wedi’i lunio i ddiwallu anghenion y farchnad dai leol, ac mae’r safle, i raddau helaeth, wedi’i ddynodi ar gyfer tai.

Dywed swyddogion fod “ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r holl sylwadau” ac yn credu bod y cynllun yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol.

Mae i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais ddydd Llun, 27 Ebrill. 

Mae’r pwyllgor yn cael ei argymell i gymeradwyo’r cais, ar yr amod bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei gwblhau i sicrhau cyfraniadau tuag at addysg ac offer chwarae, ynghyd ag amodau eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.