Reform: ‘Dyletswydd ar ysgolion i hedfan baner yr Undeb wrth ochr y Ddraig Goch’

jac yr undeb

Mae Reform UK am i bob ysgol godi baner yr Undeb os ydyn nhw’n ffurfio Llywodraeth nesaf y DU, medden nhw.

Dywedodd Suella Braverman, llefarydd Reform ar addysg, y byddai yn “ddyletswydd” ar ysgolion i hedfan y faner “wrth ochr croes San Siôr, yr Alban a’r Ddraig Goch yng Nghymru”.

Mae addysg yn bwnc datganoledig yng Nghymru, gan olygu bod y drefn yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru.

Byddai cyllid ar gael i ysgolion yng Nghymru a’r Alban godi baner yr Undeb ochr yn ochr â’u baneri cenedlaethol, meddai Reform.

Wrth ymateb i gais gan Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Reform yng Nghymru: “Mae ymdeimlad o falchder cenedlaethol ar goll mewn gormod o’n mannau cyhoeddus.”

Dywedodd Suella Braverman y byddai Llywodraeth Reform yn y DU hefyd yn sicrhau bod ysgolion yn arddangos llun o’r Brenin, ac yn cyflwyno gwersi hanes “gwladgarol”.

 “Mae llywodraethau’r Torïaid a Llafur wedi siomi cenhedlaeth o bobl ifanc gyda chwricwlwm safon isel sy’n tanseilio trylwyredd academaidd a hunaniaeth genedlaethol er mwyn hyrwyddo eu hagenda mudo torfol,” meddai ym mhapur newydd y Telegraph.

“Bydd Reform yn rhoi diwedd ar hyn. Fel ysgrifennydd addysg, byddaf yn cyflwyno cwricwlwm newydd a fydd yn ailgynnau balchder cenedlaethol ac yn sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn deall pa fraint yw hi i fod yn Brydeiniwr.”

Mae Newyddion S4C wedi holi prif bleidiau gwleidyddol eraill etholiad y Senedd ar 7 Mai am ymateb.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Ar ôl 27 mlynedd o fethiant o dan Lafur sy’n golygu bod plant yn gadael ysgol yn aml heb allu darllen, datrysiad Reform yw gorfodi ysgolion i chwifio baneri.

“Tydi Reform UK ddim yn blaid sydd yn deall cymunedau Cymru, a tydi nhw ddim yn blaid sydd gydag unrhyw syniad o sut i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
 
“Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd gyda chynlluniau beiddgar i wella safonau addysgiadol yn ein hysgolion ac atal Reform UK rhag cael eu dwylo ar rym yma yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.