Newyddion S4C

Rygbi: Tomos Williams allan am weddill yr Hydref oherwydd anaf

15/11/2024
Tomos Williams

Bydd mewnwr Cymru Tomos Williams yn methu gweddill Cyfres yr Hydref ar ôl dioddef anaf i'w ysgwydd.

Mae mewnwr y Gweilch, Kieran Hardy, wedi ei alw i'r garfan yn ei le.

Cafodd Williams, 29 oed, ei anafu yn ystod y golled 19-24 yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd - sef 10fed colled o'r fron i dîm Warren Gatland mewn gemau rhyngwladol.

Ni fydd Hardy, sydd â 21 cap dros ei wlad, yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sul, ond fe fydd yn gobeithio chwarae yn y gêm olaf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn 23 Tachwedd.

Mewnwr Caerdydd, Ellis Bevan, sydd yn cychwyn yn y crys rhif 9 y penwythnos hwn, gyda Rhodri Williams o'r Dreigiau ar y fainc.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.