Newyddion S4C

Mam-gu yn 'difaru' iddi yrru ei hŵyr i'r cartref lle lladdodd ei ffrind

14/11/2024
Dylan Thomas

Mae mam-gu dyn ifanc a laddodd ei ffrind yn Llandaf ar Noswyl Nadolig wedi dweud wrth lys barn ei bod yn difaru gyrru ei hŵyr i'r cartref lle digwyddod hynny. 

Ar ail ddiwrnod yr achos, clywodd y llys fod Sharon Burton wedi gyrru Dylan Thomas i'r cartref yn Llandaf, Caerdydd, cyn iddo drywanu ei ffrind William Bush sawl gwaith ar 24 Rhagfyr y llynedd, tra'r oedd hi'n eistedd y tu allan yn ei char, heb sylweddoli yr hyn oedd yn digwydd.

Dywedodd wrth yr heddlu mai'r tro cyntaf iddi wybod fod rhywbeth o'i le, oedd pan wnaeth Dylan Thomas ddechrau taro ar ddrws ei ffenestr, wedi ei orchuddio mewn gwaed.

Fe geisiodd Mrs Burton achub bywyd William Bush a oedd wedi cael ei drywanu 37 gwaith. 

Mae Dylan Thomas wedi pledio'n euog i ddynladdiad, ond mae'n gwadu llofruddiaeth. 

Ymddangosodd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau drwy gyswllt fideo o ysbyty seiciatrig.

'Hunllef'

Dangoswyd fideo i'r rheithgor o gyfweliad heddlu gyda Mrs Burton ar ddiwrnod y digwyddiad. 

"Fe es i â fe i'r cartref oherwydd mae ganddo gi yno, ac roedd eisiau mynd â'r ci am dro," meddai. 

"Bum munud yn ddiweddarach, y cwbl yr oeddwn i yn ei glywed oedd sŵn taro ar ffenestr fy nghar.

"Fe gymerais i oriadau'r car a neidio allan, ac roedd Dylan wedi ei orchuddio mewn gwaed. Rhedais i'r cartref ac ro'n i'n gallu gweld Will ar y llawr."

Ychwanegodd wrth yr heddwas ei bod hi "mewn hunllef."

"Dwi'n difaru fy mod i wedi mynd ag e yno, doeddwn i byth yn dychmygu y byddai Dylan yn gwneud y fath beth oherwydd mae'n fachgen tawel a swil."

Clywodd y llys ddydd Mercher fod Thomas wedi ei arestio o'r blaen wedi iddo geisio torri i mewn i Balas Buckingham. Roedd wedi ceisio dringo ffens 14 troedfedd cyn iddo gael ei ddal.

Mae'r achos yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.