Newyddion S4C

Rygbi: Pedwar newid i dîm Cymru i wynebu Awstralia ddydd Sul

13/11/2024
Max Llewellyn

Mae Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru i wynebu Awstralia ddydd Sul.

Tom Rogers sydd yn cymryd lle Mason Grady ar yr asgell wedi iddo orfod tynnu allan o'r garfan gydag anaf.

Mae Jac Morgan a James Botham yn dechrau yn y rheng ôl gydag Aaron Wainwright, yn lle Tommy Reffell, sydd ar y fainc, a Taine Plumtree, sydd heb ei gynnwys yn y garfan.

Sgoriodd Ellis Bevan oddi ar y fainc yn erbyn Ffiji ac fe fydd yn dechrau yn lle Tomos Williams yn y safle mewnwr yn erbyn y Wallabies.

Mae Gatland wedi dewis cynnwys pump o flaenwyr a thri olwr ar y fainc yr wythnos hon, gyda Rhodri Williams, Eddie James yn ymuno gyda Sam Costelow fel eilyddion yr olwyr.

Bydd Cymru yn ceisio osgoi colli 11 gêm yn olynol wedi iddyn nhw golli yn erbyn Ffiji ddydd Sul diwethaf.

'Perfformiad 80 munud'

Dywedodd Warren Gatland fod angen i Gymru fod yn 'fwy cywir' y penwythnos hwn.

"Rydym ni wedi cael adolygiad onest ar ôl penwythnos diwethaf.

"Roedd rhai pethau roeddem wedi gwneud yn dda ac eisiau adeiladu arnynt, ond mae angen i ni fod yn fwy cywir a dangos disgyblaeth, yn enwedig ar adegau allweddol.

"Rydym yn disgwyl i Awstralia fod ar ben y byd wedi iddyn nhw ennill yn erbyn Lloegr. Maen nhw wedi gwella llawer ers yr haf a chwarae nifer o gemau ers i ni gwrdd diwethaf.

"Rydym yn gwybod bod angen ni berfformio am yr 80 munud cyfan ddydd Sul."

Dyma garfan llawn Cymru:

15. Cameron Winnett  

14. Tom Rogers  

13. Max Llewellyn  

12. Ben Thomas  

11. Blair Murray  

10. Gareth Anscombe  

9. Ellis Bevan   

1. Gareth Thomas 

2. Dewi Lake (C) 

3. Archie Griffin  

4. Will Rowlands  

5. Adam Beard

 6. James Botham  

7. Jac Morgan  

8. Aaron Wainwright 

Eilyddion

16. Ryan Elias 

17. Nicky Smith 

18. Keiron Assiratti  

19. Christ Tshiunza 

20. Tommy Reffell 

21. Rhodri Williams 

22. Sam Costelow  

23. Eddie James

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.