Pum prosiect yn ennill Gwobrau Cenedlaethol y Mentrau Iaith
Mae pum prosiect wedi dod i'r brig yng Ngwobrau Cenedlaethol y Mentrau Iaith nos Fawrth.
Pwrpas y digwyddiad oedd cynnig cyfle i ddathlu gwaith y 22 o fentrau iaith ar hyd a lled Cymru, sydd yn hyrwyddo'r iaith mewn cymunedau.
Fe gafodd y gwobrau eu cynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Yn wahanol i'r gwobrau cenedlaethol yn y gorffenol, fe gafodd pum prosiect o ragoriaeth eu gwobrwyo.
Mentrau Iaith Maldwyn, Gwynedd, Caerdydd, Abertawe a Chaerffili ddaeth i'r brig.
Dywedodd y beirniaid fod prosiect Twmpdaith Menter Iaith Maldwyn yn un "gwreiddiol ac unigryw oedd yn rhoi egni newydd i hen draddodiad gwerin Cymru" ac yn "ennyn brwdfrydedd pobl ifanc a magu eu hyder a'u sgiliau i arwain sesiynau gwerin eu hunain."
Roedd prosiect Menter Iaith Gwynedd, Croeso Cymraeg – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn "enghraifft wych o’r croeso cynnes y gallwn ni ei roi i bobl sy’n newydd at y Gymraeg" yn ôl y beirniaid.
Pwrpas prosiect ‘Yn Cyflwyno’ Menter Caerdydd oedd annog disgyblion yr ardal i gychwyn bandiau Cymraeg, ac fe ddywedodd y beirniaid ei fod yn "ffordd wych o agor y drws i’r Gymraeg a bwydo’r sin gerddorol yng Nghymru."
Roedd prosiect Gŵyl Tawe, Menter Iaith Abertawe, yn "gwneud y Gymraeg yn weledol yng nghanol dinas boblog" medd y beirniaid.
‘Gwasanaeth Gofal Plant’ gan Fenter Iaith Caerffili oedd y pumed prosiect, ac yn ôl y panel beirniadu, roedd yn "enghraifft wych o sut y gallwn estyn ein gwasanaethau i gartrefi di-Gymraeg ac atgyfnerthu defnydd y Gymraeg mewn cyd-destun anffurfiol.”
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, oedd ar y panel beirniadu: "Roedd yn bleser bod ar y panel beirniadu a chael gweld yr holl waith sy’n digwydd gan y mentrau ar draws Cymru i sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu ac yn perthyn i bawb."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford: “Diolch o galon i chi fentrau iaith ar hyd a lled Cymru am eich gwaith diflino yn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg."