Ymchwiliad heddlu wedi i asgwrn gael ei ddarganfod yng Nghaernarfon
12/11/2024
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i asgwrn gael ei ddarganfod mewn canolfan ailgylchu yng Nghaernarfon.
Fe gafodd yr asgwrn ei ddarganfod yn Safle Llogi Sgip Gwynedd ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon ddiwedd wythnos diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Yn fuan wedi 12:00 ar ddydd Iau, 7 Tachwedd derbyniwyd adroddiad bod asgwrn wedi cael ei ganfod mewn canolfan ailgylchu preifat ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.
“Mae’r ymchwiliadau yn parhau, ond mae’r chwilio ar y safle wedi dod i ben y prynhawn yma.”