Pennaeth Betsi Cadwaladr yn ymddiswyddo ar ôl gwallau cyfrifo 'bwriadol'
Pennaeth Betsi Cadwaladr yn ymddiswyddo ar ôl gwallau cyfrifo 'bwriadol'
Cyfrifydd profiadol ddaeth yn un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am gyllideb o £2 biliwn.
Ond, ar ôl i archwilwyr ddod o hyd i wallau sylweddol yn y cyfrifon aeth Sue Hill ar gyfnod o absenoldeb yn Rhagfyr 2022.
Casglodd ymchwiliad allanol bod methiannau diwylliannol systemig yn nhîm cyllid y sefydliad gyda'r staff yn gwneud cofnodion anghywir bwriadol yn eu cyfrifon eu hunain.
Yn ôl yr adroddiad terfynol, roedd Sue Hill a staff eraill wedi dweud wrth archwilwyr nad oedden nhw'n ymwybodol o'r cofnodion anghywir, ond roedd yr adroddiad yn honni bod dogfennau ac e-byst staff i'w gilydd ar y pryd yn awgrymu'n wahanol.
Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw un wedi elwa'n bersonol o'r gwallau cyfrifo a daeth dim o ymchwiliadau gan Wasanaeth Atal Twyll y Gwasanaeth Iechyd na Heddlu'r Gogledd.
Dywed y Bwrdd bod ymcwhiliad mewnol wedi ei gwblhau bellach i Sue Hill a hithau wedi dweud wrth y Bwrdd y bydd yn ymddiswyddo fis nesa bron i ddwy flynedd ers i'w habsenoldeb gychwyn.
Mae hi ar gyflog o £195,000 yn cynnwys buddion pensiwn.
Mewn datganiad, mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud bod Ms Hill wedi cael llawdriniaeth a thriniaeth sylweddol yn ystod y 12 mis diwetha cyn ychwanegu bod eu meddyliau gyda hi wrth iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a'i hadferiad parhaus.
Er y cyfnod yna, mae rhai'n dadlau bod y Bwrdd yn dal wedi cael bron i 12 mis arall i ddelio efo'r mater.
"Does dim esgus bod hyn wedi cymryd dwy flynedd. Dyle hwn fod wedi cael ei ddatrys mewn cyfnod byr iawn.
"Mae cwestiynau mawr gan Lywodraeth Cymru i ateb yn hyn o beth. Eu llaw nhw sydd 'di bod ar y llyw tra bod y Bwrdd Iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig, dyw e ddim yn ddigon da."
Mae rhai staff eraill yn dal yn destun ymchwiliad dros ddwy flynedd ers i'r problemau ddod i'r amlwg.
"Mae hanes o sefydliadau mawr yn y sector gyhoeddus yng Nghymru yn llusgo'u traed ar bethau fel hyn ac yn oedi'n ddibendraw.
"Dydy e ddim yn grêt, ond yn anffodus dyw e ddim yn rhyfeddu rhywun bellach, bod yr oedi'n digwydd.
"O safbwynt cyfraith cyflogaeth, un o'r rheolau cynta ni'n cyfleu i gyflogwyr yw pwysigrwydd ymddwyn yn gyflym.
"Fel'na mae sicrhau proses effeithiol ble dydy tystiolaeth ddim yn gwanhau gyda thraul amser.
"Mae'n siomedig ond dyw rhywun ddim yn rhyfeddu bellach."
Dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedden nhw na Sue Hill am wneud sylw pellach nag ymateb i sylwadau Llyr Gruffydd.
Yn fuan ar ôl y trafferthion cyfrifo a arweiniodd at ymadawiad Sue Hill cafodd y Bwrdd Iechyd ei roi yn ôl o dan fesurau arbennig.
Y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru sy'n dweud Heddiw mai mater i'r Bwrdd Iechyd yw ymddiswyddiad Sue Hill.