Newyddion S4C

Clwb pêl-droed Sorba Thomas yn Ffrainc yn ei 'gefnogi' ar ôl ymosodiadau hiliol

10/11/2024
Sorba Thomas

Mae clwb pêl-droed Nantes yn Ffrainc wedi mynegi eu cefnogaeth i un o chwaraewyr Cymru, Sorba Thomas ar ôl iddo wynebu camdriniaeth hiliol arlein.

Mae'r asgellwr Sorba Thomas, sydd wedi ennill 12 cap dros ei wlad, ar fenthyg i Nantes o Huddersfield.

Fe gafodd ei dargedu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn buddugoliaeth clwb pêl-droed Lens o 3-2 yn erbyn Nantes yn Ligue 1 Ffrainc ddydd Gwener. 

Mewn neges ar X, Twitter gynt, dywedodd clwb pêl-droed Nantes mewn datganiad eu bod nhw yn “gwrthod unrhyw fath o hiliaeth a gwahaniaethu".

“Mae’r ymddygiad yma yn hollol groes i’r gwerthoedd rydym yn amddiffyn yn y clwb ac yn mynd yn erbyn ysbryd y sbort," meddai y clwb.

“Mae’r clwb yn awyddus i roi ein cefnogaeth lawn a chadarn i’w chwaraewyr, yn ogystal ag unrhyw un arall sy’n wynebu ymosodiadau o’r fath."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.