Dau o Gymru i deithio i Batagonia i 'hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg'
Bydd dau berson ifanc o Gymru yn teithio i Batagonia y flwyddyn nesaf i 'hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol yn y Wladfa'.
Mae Lois William o Gaernarfon a Gruffydd Madoc-Jones o Gaerdydd wedi cael eu penodi yn Swyddogion Datblygu'r Gymraeg yn y Wladfa.
Fe fydd y ddau yn teithio i dalaith Chubut yn Yr Ariannin ym mis Ionawr cyn dechrau ar eu gwaith ddiwedd Chwefror ar ddechrau'r flwyddyn ysgol.
Mae Lois William yn 23 oed ac yn wreiddiol o Benrhosgarnedd ym Mangor ond bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Graddiodd o brifysgol Ysgol Economeg Llundain (LSE) yn Llundain mewn Anthropoleg Gymdeithasol eleni, ac mae'r diddordeb mewn pobl yn un o'r prif resymau iddi ymgeisio am y swydd.
Mae Lois wedi ennill sawl gwobr am ei gweithiau llenyddol a barddonol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Maldwyn yn gynharach eleni.
Dywedodd: "Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r swydd newydd hon, ac yn ysu am gael trwytho fy hun yn niwylliant cymunedau’r Wladfa a chyfrannu at fywyd cymdeithasol y Gymraeg yn y cymunedau arbennig hynny."
'Braint'
Mae Gruffydd Madoc-Jones yn 24 oed ac yn wreiddiol o bentref Ffairfach ger Llandeilo.
Ers graddio gyda gradd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2021, mae wedi bod yn gweithio gyda dwy Fenter Iaith wahanol yng Nghymru.
Y tu allan i'r gwaith, mae wedi cyrraedd lefel tri dyfarnu rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru ac mae'n mwynhau canu a chymdeithasu â Chôr Taflais yng Nghaerdydd.
Dywedodd: "Bydd yn fraint gennyf i allu parhau i ddatblygu fy ngyrfa yn y maes hybu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ym Mhatagonia. Edrychaf ymlaen at wynebu sialensiau newydd yn y dyfodol agos a chyfrannu at waith arbennig Cymdeithas Cymru-Ariannin."
Ychwanegodd aelod o bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin, Rhisiart Arwel: “Mae dyletswyddau Lois a Gruffydd yn cynnwys trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cyffrous fel rhan o strategaeth Cymdeithas Cymru-Ariannin i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol yn y Wladfa.
"Byddant hefyd yn cynllunio a darparu cyfleoedd arbennig er mwyn codi hyder y siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg yn Nhalaith Chubut fel ei gilydd er mwyn dangos bod y Gymraeg yn fyw ac yn iach ac yn llawer iawn o hwyl."