Newyddion S4C

Heddlu yn darganfod cannoedd o blanhigion canabis mewn hen siop yng Nghastell Newydd Emlyn

07/11/2024
Stryd y Sycamorwydden, Castell NE

Cafodd dros 400 o blanhigion canabis eu darganfod mewn hen siop yng Nghastell Newydd Emlyn.

Ar ôl derbyn gwarant, fe wnaeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gynnal ymgyrch ar hen siop Co-op ar Heol Sycamorwydden ar nos Fercher 6 Tachwedd.

Cafodd 435 o blanhigion canabis eu hawlio gan swyddogion, yn ogystal ag offer i dyfu’r cyffuriau.

Nid oes unrhyw un wedi’u harestio ar hyn o bryd, ond mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.

Bydd presenoldeb swyddogion yn parhau yn yr ardal yn ogystal.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.