Arestio dyn 19 oed wedi ymosodiad rhyw ym Mharc Bute, Caerdydd
16/07/2021
Park Bute, Caerdydd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad rhyw ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau man y bore dydd Iau, 15 Gorffennaf.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y dyn lleol 19 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Llun: Neil Schofield-Hughes