Tanni Grey-Thompson yn arwain ymdrech i wella teithiau awyren i bobl anabl
Mae'r seren Baralympaidd o Gymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi ei phenodi yn arweinydd tasglu sydd â’r nod o wella teithiau awyr i bobl anabl.
Fe fydd y grŵp sydd wedi ei benodi gan Lywodraeth y DU yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu fel cael eu gadael ar awyrennau heb gymorth amserol, staff ddim yn gwybod sut i ddefnyddio cadeiriau olwyn a diffyg mynediad i doiledau.
Daw wedi i’r Farwnes Grey-Thompson ddweud ym mis Awst roedd rhaid iddi gropian oddi ar drên yng ngogledd ddwyrain Llundain yng ngorsaf King’s Cross fel rhan o’i thaith i gyrraedd y Gemau Paralympaidd ym Mharis, gan nad oedd unrhyw staff yno i helpu.
Dywedodd ei bod bellach yn “edrych ymlaen yn fawr” at gydweithio gyda phobl anabl ac arbenigwyr yn y maes er mwyn mynd i’r afael â phroblemau.
“Mae’n hollbwysig bod hawliau pob person sy’n teithio yn cael eu diogelu yn ystod pob cam o’u taith fel eu bod yn gallu teithio gyda’r parch y maen nhw’n haeddu,” meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Louise Haigh bod pobl anabl wedi gorfod teithio heb gymorth safonol am gyfnod “rhy hir".
“Dyna pam ein bod yn dod â’r tasglu arbenigol yma at ei gilydd er mwyn sicrhau newid," meddai.
Ymhlith aelodau eraill y tasglu y mae Sophie Morgan, cyd-sylfaenydd y grŵp ymgyrchu Rights on Flights, yn ogystal â swyddogion o sefydliadau fel British Airways, Ryanair a maes awyr Manceinion.
Llun: Ian West/PA Wire