Cerydd swyddogol i Andrew RT Davies am sylwadau polisi 20mya
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi cael cerydd swyddogol am ei sylwadau am bolisi Llywodraeth Cymru o greu cyfyngiadau cyflymdra 20 milltir yr awr.
Roedd Andrew RT Davies wedi ei ddisgrifio fel "blanket policy" ar gyfryngau cymdeithasol, er bod nifer o eithriadau i'r polisi.
Cafodd hefyd gerydd am sylw arall, lle yr honnodd fod gan Lywodraeth Vaughan Gething "ideoleg eithafol".
Cafodd ei sylwadau eu hystyried gan gomisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain a phwyllgor traws bleidiol o aelodau.
Ond doedd Mr Davies ddim yn bresennol yn y siambr ar gyfer y cerydd swyddogol ddydd Mercher, a cafodd ei gyhuddo o "ddangos dirmyg" tuag at y Senedd.
Dywedodd yr aelod Llafur Lee Waters; "Mae cerydd gan y Senedd yn beth difrifol. Ddylai'r un ohonan ni gymryd cerydd gan ein cyd-aelodau'n ysgafn.
"Mae'n rhaid i mi nodi patrwm o ymddygiad gan arweinydd yr wrthblaid, a'r ffaith nad yw e yma'r prynhawn 'ma; mae'n awgrymu dirmyg tuag at ein safonau."