Newyddion S4C

Anaf Amy Dowden 'ddim byd i'w wneud â'i salwch yn y gorffennol'

06/11/2024
amy dowden.png

Mae'r ddawnswraig Amy Dowden wedi dweud nad oes gan yr anaf sydd wedi ei gorfodi hi i adael Strictly Come Dancing "unrhyw beth i'w wneud â'i salwch hi yn y gorffennol".

Roedd y ddawnswraig 34 oed o Gaerffili wedi dychwelyd i'r sioe ar BBC One eleni ar ôl derbyn triniaeth am ganser y fron.

Cyhoeddodd yr wythnos hon bod ei 'chalon yn torri' ar ôl  cyhoeddi na fydd hi'n cystadlu yng ngweddill y gyfres eleni.

Mae ganddi anaf i'w throed a fydd hi ddim yn dawnsio gyda'i phartner JB Gill am weddill y gyfres. 

Ddydd Mercher, dywedodd wrth raglen It Takes Two: "Gallai'r anaf yma fod wedi digwydd i unrhyw un.

"Dwi eisiau pwysleisio, dydy'r anaf yn ddim byd i'w wneud ag unrhyw salwch yn y gorffennol."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio dychwelyd i'r gyfres eleni "mewn rhyw gapasiti."

Mae JB Gill bellach wedi cael ei bartneru gyda Lauren Oakley. 

Cyhoeddodd Amy Dowden ym mis Chwefror fod profion wedi dangos nad oedd ganddi "unrhyw dystiolaeth o'r cyflwr".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.