Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar car yn Sir Gaerfyrddin
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Cross Hands a Phont Abraham tua 11:55 fore Mawrth.
Bu farw un dyn yn y gwrthdrawiad ac mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbennig, meddai'r llu.
Cafodd menyw ei chludo i'r ysbyty ac mae hi mewn cyflwr difrifol, ond yn sefydlog.
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau ar ôl y gwrthdrawiad cyn iddo ail-agor i gyfeiriad y gorllewin am 21:40 ac i'r dwyrain am 22:10.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un oedd yn teithio ar naill gyfeiriad yr A48 o gwmpas amser y gwrthdrawiad, yn enwedig os oes ganddyn nhw luniau cylch cyfyng, i gysylltu â nhw.
Fe allwch chi gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 139 o 5 Tachwedd.