Covid-19: Y data sy’n dangos gobaith

Er gwaethaf y nifer o bobl sydd yn parhau i gael eu heintio gan Covid-19, mae cipolwg ar y data diweddaraf yn dangos llygedyn o obaith yn ôl Wales Online.
I ddeall sut mae’r haint yn effeithio ar iechyd pobl, mae’n bwysig ystyried y niferoedd sydd wedi marw, y nifer sydd mewn ysbytai o ganlyniad i Covid-19, a hefyd y gyfradd heintio.
Yn ôl Wales Online, mae’r data newydd yn dangos bod y rhaglen frechu yn parhau i lwyddo i leihau’r nifer sydd yn gorfod derbyn triniaeth mewn ysbytai.
Er bod y nifer o bobl sydd wedi’u heintio ers dechrau Mehefin wedi cynyddu’n sylweddol, mae’r niferoedd sydd yn derbyn gofal mewn ysbytai o achos Covid-19 yn parhau i aros yn isel.
Darllenwch y stori’n llawn yma.