Rachel Reeves yn amddiffyn ei newidiadau i'r dreth etifeddu ar ffermydd
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi amddiffyn ei phenderfyniad yn y Gyllideb i gyflwyno newidiadau i'r dreth wrth etifeddu fferm.
Mae hi wedi cael ei beirniadu'n hallt gan undebau amaethyddol yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth siarad ar raglen BBC’s Sunday with Laura Kuenssberg dywedodd Ms Reeves y bydd hyn yn effeithio ar “ychydig iawn o ffermydd yn unig. ”
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Mae'r undebau amaethyddol wedi dweud y bydd hyn yn cael effaith ar fwyafrif y ffermydd yng Nghymru. Mae Llywydd NFU Cymru Aled Jones eisoes wedi mynegi pryder gan ddweud y bydd yn “fygythiad i'n strwythur o ffermydd teuluol.”
Ond mae’r Canghellor wedi dweud ddydd Sul nad yw’n “fforddiadwy” i beidio â chyflwyno newidiadau o’r fath “pan fod ein cyllid cyhoeddus o dan gymaint o bwysau.”
“Mi fydd hyn yn effeithio ar nifer fechan iawn o eiddo amaethyddol,” meddai.
“Ond y llynedd roedd y manteision ynghlwm â chymorth eiddo amaethyddol yn golygu bod 40% o’r budd yn mynd i 7% o’r perchnogion tir mwyaf cyfoethog,” ychwanegodd
'Anghywir'
Mae'r Canghellor hefyd wedi cydnabod iddi fod yn “anghywir” pan ddywedodd na fyddai hi’n codi trethi yn ystod yr ymgyrch etholiadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Cyhoeddodd Ms Reeves yn ystod yr ymgyrch etholiadol ar 11 Mehefin na fyddai hi’n gorfod codi trethi yn uwch na’r hyn roedd y blaid Lafur eisoes wedi eu hamlinellu yn eu maniffesto.
Ond wrth gyhoeddi Cyllideb gyntaf ei phlaid mewn 14 o flynyddoedd ddydd Mercher, dywedodd y bydd trethi eraill yn cynyddu £40 biliwn er mwyn mynd i'r afael a'r "twll du" yng nghyllid y wlad.
Bydd rhan helaeth o'r arian hwnnw'n cael ei gasglu wrth gynyddu taliadau yswiriant gwladol ar gyfer cyflogwyr. Ond honnodd Ms Reeves na fyddai hynny'n effeithio ar fwyafrif y busnesau bychain.
Yn ystod y Gyllideb, cyhoeddodd Ms Reeves hefyd y byddai'n darparu £1.7 biliwn ychwanegol i Gymru drwy'r fformiwla Barnett, wedi iddi gyhoeddi cynnydd mewn gwariant ar ysgolion ac ysbytai yn Lloegr.
Wrth siarad ar raglen Sky News’s Sunday Morning with Trevor Phillips fore Sul, dywedodd iddi fod “yn anghywir” yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol gan nad oedd hi’n “gwybod popeth” am gyflwr y cyllid cyhoeddus.
“Cyrhaeddais y Trysorlys ar 5 Gorffennaf, ychydig dros fis ar ôl i mi ddweud y geiriau hynny.
“Cefais fy nhywys i ystafell gan uwch swyddogion y Trysorlys a nododd y twll du enfawr yn y cyllid cyhoeddus.”
Twll du
Mae anghytundeb o ran maint gwirioneddol y “twll du” dan sylw.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai cyfanswm y bwlch yw £22 biliwn, ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod hynny'n anghywir.
Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod y llywodraeth flaenorol wedi methu â datgelu tua £9 biliwn o wariant ychwanegol adeg y Gyllideb ddiwethaf ym mis Mawrth.
Llun: Ben Whitley/PA Wire