Newyddion S4C

Cyngor yn ymddiheuro wedi i weithwyr gwastraff daflu batris i’r clawdd

Y Byd ar Bedwar 04/11/2024

Cyngor yn ymddiheuro wedi i weithwyr gwastraff daflu batris i’r clawdd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymddiheuro wedi i un o weithwyr gwastraff y cyngor daflu batris i glawdd. 

Fis Medi, fe wnaeth Adam Wroz o Langollen roi’r batris mewn bocs ailgylchu priodol er mwyn i'r cyngor eu casglu. 

Fe wnaeth Mr Wroz ddarganfod y batris mewn clawdd yn ei ardd. Mewn fideo CCTV mae'n ymddangos bod y gweithiwr yn taflu’r batris i'r clawdd yn hytrach na’u casglu gyda’r eitemau ailgylchu eraill.

Yn ôl Mr Wroz, d’yw hyn “ddim yn ddigon da” ac mae wedi ei wneud yn “flin iawn”.

“O’n i’n tacluso’r ardd pan nes i ddarganfod y batris yn y clawdd ger y ffens. Nath o gymryd munud neu ddau i mi sylweddoli mai fy matris i oedden nhw, batris o’n i wedi ymdrechu i’w hailgylchu,” meddai Adam wrth raglen Y Byd ar Bedwar. 

Image
ybab
Fe wnaeth Adam Wroz anfon cwyn at Gyngor Sir Ddinbych am safon y gwasanaeth gwastraff. 

‘Annerbyniol’ 

Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymddiheuro am y digwyddiad ar ôl i Adam anfon cwyn a’r dystiolaeth fideo at y cyngor. 

Ychwanegodd y cyngor fod y digwyddiad yn “annerbyniol ac y bydd y mater hwn yn cael ei ymchwilio'n drylwyr i sicrhau'r canlyniad cywir.” 

Ond nid Mr Wroz yn unig sydd wedi cysylltu â Chyngor Sir Ddinbych gyda phryderon a chwynion am eu system ailgylchu. 

Ym mis Mehefin fe wnaeth y cyngor gyflwyno system wastraff newydd sydd wedi costio £22 miliwn. Mae’r system yn gofyn i drigolion y sir wahanu eu gwastraff ailgylchu i focsys neu fagiau gwahanol. 

Ond ers cyflwyno’r gwasanaeth, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn dros 500 o gwynion ffurfiol a 12,000 o adroddiadau am finiau heb eu casglu.

Image
YBAB
Yn ôl cynghorydd lleol, mae sawl ardal yn y sir wedi gweld gwastraff yn cynyddu oherwydd methiannau’r cyngor i gasglu. 

Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar hefyd wedi gweld tystiolaeth o fwyd yn cael ei gasglu a'i gymysgu gydag eitemau eraill sy’n golygu na all yr eitemau gael eu hailgylchu. 

Mewn cyfweliad fe wnaeth Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych gyfaddef nad oes modd ailgylchu unrhyw eitemau sydd yn cael eu cymysgu gyda bwyd. 

Dywedodd: “Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, fe wnaethon ni fethu casglu biniau rhannau o’r sir ac felly roedd gwastraff wedi casglu ar y strydoedd. Roedd rhaid i ni ymateb i hyn ac felly mewn nifer bychan o achosion roedd gennym ddewis rhwng casglu pob gwastraff a’i gymysgu neu beidio â’i gasglu o gwbl. Roedden ni’n meddwl mai’r peth iawn i’w wneud oedd casglu’r gwastraff.” 

Yn ôl Merfyn Parry sydd wedi bod yn gynghorydd yn Sir Ddinbych ers dros ddegawd mae rhai yn dal i ddisgwyl i’w biniau gael eu casglu ers mis Mai.

Image
Mae Merfyn Parry wedi bod yn gynghorydd yn Ward Llandyrnog ers 2012.
Mae Merfyn Parry wedi bod yn gynghorydd yn Ward Llandyrnog ers 2012.

Mae Mr Parry wedi derbyn cannoedd o gwynion am y gwasanaeth gwastraff dros y misoedd diwethaf. 

“Dwi wedi cael mwy o gwynion 'swn i’n ddeud am y system yma na ddim byd dwi 'di gael ers dwi 'di bod ar y cyngor ers 2012,” meddai Mr Parry. 

“Weithia' ma’r bin gwyrdd sy’n cymryd y porfa ddim yn cael ei bigo fyny, weithia dyw’r trolis ddim yn cael eu pigo fyny. Mae’r sbwriel jyst yn adeiladu gan bobl.

“Dwi'n meddwl fod gan bawb i’w cyfrifoldeb i drio gwneud hwn, ond wedi iddyn nhw fynd i’r ymdrech i wneud hwn da ni’n disgwyl i’r sir hefyd gwneud yr ymdrech o fedru codi fo i fyny.”

Mae’r cyngor wedi buddsoddi £1.3 miliwn ychwanegol i geisio datrys rhai o’r problemau sydd wedi codi. Ddydd Llun, bydd newidiadau i rowndiau casgliadau y sir yn dechrau er mwyn ceisio gwella effeithiolrwydd y system. 

Ychwanegodd Mr Ward: “Mae rhai pobl wedi bod yn cael gwasanaeth anghyson, ac mae rhai wedi profi gwasanaeth gwaeth nag eraill. Mae 'na bobl sydd ddim wedi cael unrhyw drafferthion. 

“Dwi’n meddwl mai dyma’r gwasanaeth cywir ac mae’n wasanaeth gwell nag o’r blaen. Rwy’n cydnabod bod rhai pobl wedi cael gwasanaeth anghyson ond mae gennym bellach gynlluniau ar waith ac adnoddau ychwanegol er mwyn datrys unrhyw broblemau.” 

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar: Llanast Llwyr? am 20:00, 4 Tachwedd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.