'Y llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth' yn taro Sbaen
'Y llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth' yn taro Sbaen
Delwedd o uffern yn ôl maer Horno de Alcedo, tref yn nwyrain y wlad.
Mae o leia 95 wedi marw, gan gynnwys un dyn o Brydain gyda nifer fawr ar goll.
Roedd un teulu o Gaerdydd yn Valencia ar y pryd.
"Aeth yr alert off tra o'n i ar y bws.
"Fel o'n ni'n cyrraedd mewn i Valencia, na'th pawb ar y bws cael o ar yr un pryd ac mae'r sŵn yn striking."
"Oedd pawb yn ymwybodol bod rhywbeth mwy difrifol yn digwydd.
"Wnaethon ni fynd nôl i'r gwesty ac aros yn ddiogel."
Ardal Valencia welodd y gwaethaf o'r glaw.
Yn y mewndiroedd ger Valencia, maen nhw fel arfer yn gweld rhyw 460mm o ddŵr pob blwyddyn.
Ond, o fewn wyth awr, fe welson nhw 491mm.
160mm o hynny o fewn awr yn unig.
Felly beth achosodd hyn?
Ffenomenon dywydd o'r enw DANA sy'n gyfrifol.
Lle mae pwll o aer oer yn uwch yn yr atmosffer a system o wasgedd isel yn nes at y ddaear.
Mae hyn yn tynnu aer llawn lleithder o For y Canoldir.
Mae'n codi'n gyflym ac yn creu cymylau storm.
Yr uchaf yw'r cymylau yma, a'r mwyaf yw'r lleithder ynddynt y mwyaf tebygol ydym ni o weld digwyddiadau eithafol fel hyn.
Adeg yma'r flwyddyn, mae stormydd yn Sbaen yn arferol.
Ond, yn ôl arbenigwyr, mae newid hinsawdd yn golygu bydd rhai eithafol fel hyn yn digwydd yn fwy aml.