Newyddion S4C

Heddlu’r Met 'wedi cael gwybod' am honiadau yn erbyn Mohamed Al Fayed mor gynnar â 1995

01/11/2024
Mohamed Al Fayed

Mae honiadau bod Heddlu’r Met wedi cael gwybod am gyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn perchennog Harrods Mohamed Al Fayed ddegawd ynghynt nag yr oedd y llu wedi cydnabod yn wreiddiol.

Dywedodd teulu Samantha Jay-Ramsay iddi gael ei haflonyddu a'i ymosod ar yn rhywiol gan Mr Al Fayed tra’n gweithio yn ei siop yn Knightsbridge, pan yn 17 oed, ac adroddodd am ei ymddygiad i’r Met ym 1995.

Dywedodd yr heddlu’n flaenorol fod yr honiadau cyntaf y daethant yn ymwybodol ohonynt wedi dod yn 2005, gan ychwanegu efallai nad oedd achos Samantha wedi’i drosglwyddo i gofnod heddlu oherwydd bod rhai adroddiadau ym 1995 ar bapur.

Bu farw Samantha mewn damwain car yn 2007, yn 28 oed.

Dywedodd y Met eu bod wedi gofyn i erlynywyr benderfynu a ddylid cyhuddo cyn-berchennog Harrods a Fulham FC, Mr Al Fayed mewn perthynas â dwy yn unig o 21 o ferched a wnaeth honiadau, gan gynnwys treisio ac ymosodiad rhywiol, rhwng 2005 a 2023.

Rhoddwyd tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn 2009 a 2015, ond penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â’r naill na’r llall oherwydd nad oedd “rhagolygon realistig o euogfarn”.

Galwadau

Mae mam Samantha, Wendy Ramsay, a’i chwaer Emma Willis wedi cysylltu â’r cwmni cyfreithwyr Leigh Day i edrych ar opsiynau cyfreithiol, gyda’r pâr yn honni bod y Met wedi gwrthod eu helpu.

Maen nhw wedi cefnogi galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i'r cam-drin honedig gan Mr Al Fayed.

Dywedodd y Comander Stephen Clayman o’r Met: “Er na allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd, rydym yn cydnabod bod ein hymagwedd yn y gorffennol yn effeithio ar ymddiriedaeth a hyder ac rydym yn benderfynol o wneud yn well.

“Rydym wedi gwneud newidiadau a chynnydd sylweddol i sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr.”

Prynodd Mr Al Fayed Harrods am £615 miliwn yn 1985 ac ar ôl 26 mlynedd wrth y llyw fe’i gwerthodd i deulu brenhinol Qatari am £1.5 biliwn yn 2010.

Bu farw yn 2023, yn 94 oed.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.